Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cerbytffordd tua'r Dwyrain rhwng Cyffordd 33 (Llaneurgain) a Chyffordd 33B (Ewloe), Sir y Fflint) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2017

Year2017

2017Rhif 167 (Cy. 48)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cerbytffordd tua'r Dwyrain rhwng Cyffordd 33 (Llaneurgain) a Chyffordd 33B (Ewloe), Sir y Fflint) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2017

Gwnaed13Chwefror2017

Yn dod i rym14Chwefror2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Caer – Bangor (yr A55) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Chwefror 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cerbytffordd tua'r Dwyrain rhwng Cyffordd 33 (Llaneurgain) a Chyffordd 33B (Ewloe), Sir y Fflint) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2017.

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

ystyr ‘cyfnod y gwaith’ (‘works period’) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 20:00 o'r gloch ar 14 Chwefror 2017 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr ‘y darn(au) o'r gefnffordd’ (‘the length(s) of the trunk road’) yw:

i. y darn o gerbytffordd tua'r dwyrain y gefnffordd yn Sir y Fflint sy'n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth Gyffordd 33 (Llaneurgain) hyd at drwyniad y ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth Gyffordd 33B (Ewloe);

ii. y darnau cyfan o'r ffyrdd ymuno tua'r dwyrain wrth Gyffordd 33 (Llaneurgain) a Chyffordd 33A (Northop Hall);

iii. y darn cyfan o'r ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth Gyffordd 33A (Northop Hall).

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

Gwaharddiadau

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, fynd ar y darnau o'r gefnffordd.

4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal na pheri i unrhyw feic o'r fath gael ei reidio ar y darnau o'r gefnffordd.

5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, gerdded ar y darnau o'r gefnffordd.

Cymhwyso

6. Ni fydd y gwaharddiadau yn erthyglau 3, 4 a 5 yn gymwys ond...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT