Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003
Year | 2003 |
2003 Rhif 673 (Cy.83)
TRETH GYNGOR, CYMRU
Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003
11 Mawrth 2003
1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 4(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a'r holl bwerau eraill sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol -
Enw, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003 ac mae'n dod i rym ar 1 Ebrill 2003
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "y cyfnod perthnasol" ("the relevant period") o ran cwrs yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y mae person yn dechrau ar y cwrs hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod ("y diwrnod olaf") y mae'r person hwnnw yn ei gwblhau, yn rhoi'r gorau iddo, neu yn gorfod ei adael (mae'r cyfnod hwnnw yn cynnwys unrhyw gyfnod o wyliau rhwng tymhorau a chyn y diwrnod olaf);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2);
ystyr "y Prif Orchymyn" ("the Principal Order") yw Gorchymyn Treth Gyngor (Anwybyddiad Gostyngiad) 1992(3);
Hyfforddeion Hyfforddi Ieuenctid
3. - (1) At ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i'r Ddeddf, ystyr "youth training trainee" yw person sydd, ar ddiwrnod penodol -
(a) yn iau na 25 oed; a(b) ar gwrs hyfforddi a hynny'n cydymffurfio â chynllun hyfforddi personol yn unol â threfniadau - (i) a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(4); a(ii) sy'n cyfrif fel cynllun hyfforddi fel y'i diffinnir yn rheoliad 75(1)(b) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(5).(2) Mae person ar gwrs, at ddibenion paragraff (1) uchod, ar ddiwrnod penodol os yw'r diwrnod yn dod o fewn y cyfnod perthnasol i'r cwrs hwnnw.
Dirymu
4. - (1) Yn Erthygl 4 o'r Prif Orchymyn dileir y geiriau
" "youth training trainee" has the meaning given by paragraph 8 of and Schedule 1 to this Order"; a
(2) Dileir Rhan IV (Hyfforddi Ieuenctid) o Atodlen 1 i'r Prif Orchymyn yn ei gyfanrwydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992 yn diffinio'r ymadrodd "youth training trainee" drwy gyfeirio at "approved training scheme" fel y'i diffinnir yn adran 28(6)(c) o Ddeddf...
To continue reading
Request your trial