Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002

2002 Rhif 2304 (Cy.229)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002

am 11:29 ar 5 Mediam2002

6 Medi 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, sy'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt o dan adrannau 1, 7, 8(1), 83(2) ac 87(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002; mae'n gymwys i Gymru, daw i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn -

ystyr "anifeiliaid" ("animals") yw gwartheg, (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid ac anifeiliaid o deulu'r mochyn;

ystyr "canolfan gasglu" ("collecting centre") yw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel canolfan hanner-ffordd ar gyfer derbyn anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall ac mae'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir, boed fel marchnad neu fel arall, ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid ond dim ond os bwriedir i'r anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu masnachu gael eu cigydda ar unwaith wedi hynny;

ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros anifeiliad hyd yn oed dros dro ac, at ddibenion erthygl 6(6)(a), yn cynnwys unrhyw berson sy'n cludo'r anifeiliaid;

mae i "cyfleuster ynysu ar gyfer bridio" ("breeding isolation facility") yr ystyr a briodolir iddo yn erthygl 3(3)(e)(i);

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;

ystyr "diheintio" ("disinfect") yw diheintio â diheintydd a gymeradwyir;

ystyr "diheintydd a gymeradwyir" ("approved disinfectant") yw diheintydd a restrir yn Atodlen 1 i Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwyir) 1978(2) fel un a gymeradwyir i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â Gorchymynion Traed a'r Genau;

ystyr "gorchymyn ardal a reolir" ("controlled area order") yw unrhyw orchymyn datganiadol a wneir o dan erthygl 30 o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983(3);

ystyr "grw p meddiannaeth unigol" ("sole occupancy group") yw unrhyw grwp o safleoedd y mae awdurdod wedi'i roi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn caniatáu symudiadau rhwng pob un o'r safleoedd yn y grw p;

mae i "Gweinidogion yr Alban" yr ystyr a roddir i " Scottish Ministers" yn adran 44 o Ddeddf yr Alban 1998(4);

ystyr "hawl gofrestredig i gomin" ("registered right of common") yw hawl i gomin a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cofrestru Cominoedd 1965(5);

ystyr "hela" ("hunting") yw defnyddio helgwn, beglgwn neu gw n eraill, er mwyn hela neu gwrsio unrhyw garw, llwynog, minc, ysgyfarnog neu gwningen neu er mwyn hela ar drywydd unrhyw abwyd neu ar drywydd arall;

mae i "lladd-dy" yr ystyr a roddir i "slaughterhouse" yn y Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(6);

mae i "Marc S" ("S Mark") yr un ystyr ag sydd iddo yng Ngorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002;

ystyr "milfeddyg cymwysedig" ("qualified veterinary surgeon") yw cymrawd neu aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon;

mae i "pasbort gwartheg" yr ystyr a roddir i "cattle passport" yn y Rheoliadau Adnabod Gwartheg ond nid yw'n cynnwys pasbort lloi fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hynny;

ystyr "Rheoliadau Adnabod Gwartheg" ("Cattle Identification Regulations") yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(7);

mae i "rhif adnabod unigol" yr un ystyr ag "individual identification number" yng Ngorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(8);

ystyr "rhif daliad" a "rhif y daliad" ("CPH number") yw'r rhif daliad fferm a neilltuir o dro i dro i unrhyw safle neu ran o unrhyw safle gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae "safle" ("premises") yn cynnwys tir, gydag adeiladau neu hebddynt;

mae "tir" ("land") yn cynnwys tir comin neu dir sydd heb ei amgáu;

ystyr "tir tac" ("tack land") yw tir yr aethpwyd ag anifeiliaid sy'n perthyn i rywun arall iddo er mwyn eu porthi neu eu pori am dâl gan borfelwr;

mae "triniaeth filfeddygol" ("veterinary treatment") yn cynnwys, yn achos geifr, casglu semen; ac

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid

3. - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, ni chaiff neb symud anifail o unrhyw safle (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel y "safle tarddiad") oni bai fod y gofynion canlynol yn cael eu bodloni -

(a) mae'r symudiad yn cael ei wneud o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd ac yn unol â'r amodau ynddi; a

(b) nid oes unrhyw anifail wedi'i symud i'r safle tarddiad (neu safle arall yn yr un grw p meddiannaeth unigol) yn ystod y cyfnod o 20 diwrnod cyn y diwrnod y mae'r anifail a grybwyllwyd gyntaf i'w symud (a'r cyfnod hwnnw yn un y cyfeirir ato yr erthygl hon fel "y cyfnod segur").

(2) Ni fydd y gofyniad a gynhwysir ym mharagraff (1)(b) o'r erthygl hon yn gymwys -

(a) os yw'r safle tarddiad yn farchnad, canolfan gasglu, canolfan ffrwythloni artiffisial, neu le ar gyfer triniaeth filfeddygol;

(b) os yw'r symudiad yn -

(i) symudiad mochyn

(aa) fel y cyfeirir ato yn erthgyl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(9); neu

(bb) i farchnad ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith;

(ii) symudiad anifail yn uniongyrchol i ladd-dy, neu i ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda ar unwaith, ar yr amod yn yr achos olaf -

(aa) nad yw safle'r ganolfan gasglu wedi'i ddefnyddio ac na fydd yn cael ei ddefnyddio ar yr un diwrnod ar gyfer sioe neu arddangosfa neu ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid at unrhyw ddiben heblaw eu cigydda ar unwaith; a

(bb) bod pob anifail sy'n cael ei symud i'r ganolfan gasglu yn cael ei symud oddi yno yn uniongyrchol i ladd-dy;

(iii) symudiad llo sy'n llai na 30 diwrnod oed (y dyroddwyd pasbort gwartheg ar ei gyfer ac y mae tagiau clustiau wedi'u dodi arno yn unol ag erthygl 3(3) o'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg) o safle tarddiad a'r safle hwnnw oedd naill ai'r safle lle cafodd y llo ei eni neu safle arall yn yr un grw p meddiannaeth unigol, ac eithrio na fydd yr esemptiad hwn yn gymwys -

(aa) os yw unrhyw anifail wedi'i symud yn ystod y cyfnod segur yn uniongyrchol o farchnad i'r safle tarddiad neu i safle arall yn yr un grw p meddiannaeth unigol;

(bb) os yw'r llo yn cael ei symud i ganolfan gasglu neu farchnad; neu

(cc) os yw'r llo yn cael ei symud i sioe neu arddangosfa;

(iv) symudiad oen neu fyn sy'n llai na 7 diwrnod oed o safle tarddiad a'r safle hwnnw yw naill ai'r safle lle cafodd ei eni neu safle arall yn yr un grw p meddiannaeth unigol i unrhyw safle arall nad yw'n bellach na 10 cilometr ar hyd y ffordd o'r safle tarddiad os maethu'r oen neu'r myn hwnnw yw diben y symudiad hwnnw;

(v) dychweliad dafad o dir tac i'r safle y cafodd ei symud ohono yn wreiddiol neu i safle arall yn yr un grw p meddiannaeth unigol ar yr amod bod y tir tac wedi'i reoli ar wahân i weddill unrhyw safle yr oedd yn rhan ohono ar bob adeg yn ystod y cyfnod yr oedd y ddafad yno a bod gan y tir tac hwnnw rif daliad ar wahân;

(vi) symudiad anifail rhwng safle mewn grw p meddiannaeth unigol yn unol ag awdurdod a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol;

(vii) symudiad anifail i sioe neu arddangosfa o sioe neu arddangosfa arall;

(viii) symudiad anifail i sioe neu arddangosfa, heblaw o ddigwyddiad arall o'r fath neu o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (x), ar yr amod ei fod wedi'i ynysu am yr 20 diwrnod cyn dyddiad y symud o bob anifail arall ar y safle tarddiad ac unrhyw safle arall yn yr un grw p meddiannaeth unigol a'i fod wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio -

(aa) yn achos gwartheg yn unol â gofynion y Rheoliadau Adnabod Gwartheg;

(bb) yn achos dafad neu afr â rhif adnabod unigol; neu

(cc) yn achos carw yn unol â gofynion Gorchymyn Darfodedigaeth (Ceirw) 1989(10);

(ix) symudiad anifail i sioe neu arddangosfa, o safle y mae wedi'i symud iddo o sioe neu arddangosfa arall, ar yr amod nad oes unrhyw anifail arall wedi'i symud i'r safle hwnnw (neu safle arall yn yr un grw p meddiannaeth unigol) yn ystod y cyfnod o 20 diwrnod cyn y diwrnod y mae'r anifail a grybwyllwyd gyntaf i fod i gael ei symud;

(x) symudiad anifail o sioe neu arddangosfa i unrhyw le heblaw sioe neu arddangosfa arall ar yr amod mai yn ystod yr 20 diwrnod ar ôl y symudiad o'r sioe neu'r arddangosfa -

(aa) nad yw'n cael ei symud o'r safle newydd ac eithrio i sioe neu arddangosfa arall; a

(bb) ei fod yn cael ei ynysu oddi wrth bob anifail arall tra bydd ar y safle newydd;

(xi) symudiad gwartheg o safle tarddiad o dan amgylchiadau -

(aa) lle'r oedd yr unig symudiad anifeiliaid i'r safle tarddiad yn symudiad llo llai na 30 diwrnod oed a brynwyd o'r safle lle cafodd ei eni neu o safle arall yn yr un grw p meddiannaeth unigol;

(bb) lle mae'r safle tarddiad wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio fel uned magu lloi arbenigol drwy hysbysiad a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol; ac

(cc) lle dyroddwyd pasbortau gwartheg ar gyfer y gwartheg sydd i'w symud a lle cawsant eu tagio yn unol â'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg;

(xii) symudiad anifail i'w allforio'n uniongyrchol neu i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000(11) cyn yr allforio hwnnw;

(xiii) symudiad anifail sydd wedi'i fewnforio i'r Deyrnas Unedig yn uniongyrchol i unrhyw safle o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig; neu

(xiv) symudiad anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin drosto ac

(aa) safle ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae'r hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef; neu

(bb) safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw ac y mae'r hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef;

(xv) symudiad anifail...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT