Gorchymyn Cefnffordd yr A494 (Y Bala i Lanuwchllyn, Gwynedd) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2017

2017Rhif 254 (Cy. 67)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A494 (Y Bala i Lanuwchllyn, Gwynedd) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2017

Gwnaed27Chwefror2017

Yn dod i rym2Mawrth2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Dolgellau – Man i'r De o Benbedw (yr A494) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a/neu ei wahardd ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Mawrth 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A494 (Y Bala i Lanuwchllyn, Gwynedd) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2017.

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr ‘cerbyd esempt’(‘exempted vehicle’) yw:

(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys; a

(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—

(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu

(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;

ystyr ‘cyfnod y gwaith’ (‘works period’) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 07:30 o'r gloch ar 2 Mawrth 2017 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr ‘y darn o'r gefnffordd’(‘the length of the trunk road’) yw'r darn o'r gefnffordd yn Sir Gwynedd sy'n ymestyn o ganolbwynt ei chyffordd â'r fynedfa i Ganolfan Hamdden y Bala hyd at bwynt 590 o fetrau i'r gogledd o ganolbwynt ei chyffordd â'r B4403 yn Llanuwchllyn;

ystyr ‘lluoedd arbennig’(‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

Cyfyngiadau a Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd fynd yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT