Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004

2004Rhif 1733 (Cy.176)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004

6 Gorffennaf 2004

2 Awst 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi( 1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972( 2) mewn perthynas â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 2 Awst 2004.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac maent yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981( 3);

ystyr "Rheoliadau 2004" ("the 2004 Regulations") yw Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Lloegr a Chymru) (Diwygio) 2004( 4) ).

Cymhwyso Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981: Cymru

3. - (1) Mae effaith adran 27ZA o'r Ddeddf (a fewnosodwyd gan Reoliadau 2004) yn peidio, fel bod y diwygiadau i Ran 1 o'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 a 4 o Reoliadau 2004 ac sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys hefyd i Gymru.

(2) Mae'r cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999( 5) i'r Ddeddf i'w drin fel petai'n cyfeirio at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 2004 a'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

YR ATODLEN

Rheoliad 3(1)

DIWYGIADAU I DDEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981

1. Yn adran 1 (diogelu adar gwyllt, eu nythod a'u hwyau) -

(a) yn is-adran (3)(a) - (i) o flaen "killed", yr ail dro y mae'n digwydd, mewnosodwch "lawfully", a(ii) hepgorwch "otherwise than in contravention of the relevant provisions";(b) yn is-adran(3)(b) - (i) o flaen "sold" mewnosodwch "lawfully", a(ii) hepgorwch "otherwise than in contravention of the relevant provisions";(c) yn is-adran (3) hepgorwch y geiriau o "and", lle mae'n digwydd gyntaf, hyd at ddiwedd yr is-adran; ac(ch) ar ôl is-adran (3), mewnosodwch yr is-adran ganlynol -

" (3A) In subsection (3) "lawfully" means without any contravention of -

(a) this Part and orders made under it;(b) the Protection of Birds Acts 1954 to 1967 and orders made under those...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT