Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021

Year2021

2021 Rhif 457 (Cy. 145)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021

Gwnaed 9th April 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9th April 2021

Yn dod i rym 12th April 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

S-1 Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn dechrau’r diwrnod ar 12 Ebrill 2021.

S-2 Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 4(6A), yn lle “11 Ebrill” rhodder “25 Ebrill”.

(3) Ar ôl Rhan 3 mewnosoder—

RHAN 3A

Cyfyngiadau teithio etc.

S-14A

Cyfyngiad ar deithio rhyngwladol

14A.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

(a)

(a) ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)

(b) teithio i fan cychwyn, neu fod yn bresennol ynddo, at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2) At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)

(a) os yw’r diben y mae’r person yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ato yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(b)

(b) os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin atynt yn cynnwys—

(a)

(a) cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol;

(b)

(b) osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)

(c) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(d)

(d) cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(e)

(e) darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 20063, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(f)

(f) mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(g)

(g) symud cartref;

(h)

(h) ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(i)

(i) cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)

(a) darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)

(b) mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i) fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(ii) fel gofalwr parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(c)

(c) mynd i angladd—

(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(d)

(d) athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

(e)

(e) darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

(i) digwyddiad chwaraeon elît, neu

(ii) digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin;

(f)

(f) teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad.

(5) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

(6) Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 14B a 29—

(a)

(a) mae i “yr ardal deithio gyffredin” yr un ystyr â “the common travel area” yn Neddf Mewnfudo 19714;

(b)

(b) ystyr “man cychwyn” yw terfynfa ryngwladol neu unrhyw fan arall yng Nghymru y caiff person deithio ohono i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

S-14B

Ffurflen datganiad teithio rhyngwladol

14B.—(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog.

(2) Rhaid i’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol fod ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru5a chynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)

(a) enw llawn P,

(b)

(b) dyddiad geni a chenedligrwydd P,

(c)

(c) rhif pasbort P, neu rif cyfeirnod dogfen deithio P (fel y bo’n briodol),

(d)

(d) cyfeiriad cartref P,

(e)

(e) cyrchfan P,

(f)

(f) y rheswm y mae P yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin,

(g)

(g) datganiad bod P yn ardystio bod yr wybodaeth y mae P yn ei darparu yn wir, ac

(h)

(h) y dyddiad y mae’r datganiad wedi ei gwblhau.

(3) Pan fo P yn teithio gyda phlentyn neu berson nad oes ganddo alluedd (“G”), y mae gan P gyfrifoldeb drosto, rhaid i P, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau sy’n ymwneud ag G i’r swyddog.

(4) Nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys—

(a)

(a) i G, na

(b)

(b) i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

(5) Yn y rheoliad hwn, nid oes gan berson alluedd os nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr “lack capacity” yn adran 2 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 20056, i gwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol.”

(4) Ar ôl Rhan 4 mewnosoder—

RHAN 4A

Cymryd mesurau ataliol wrth ymgyrchu mewn etholiad

S-18A

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws wrth ymgyrchu mewn etholiad

18A.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gyflawni neu hwyluso gweithgaredd sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion darbwyllo unrhyw berson i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad—

(a)

(a) cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg—

(i) y bydd unrhyw berson sy’n ymwneud â’r gweithgaredd yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws, a

(ii) y bydd unrhyw berson o’r fath yn lledaenu’r coronafeirws, a

(b)

(b) wrth gymryd y mesurau hynny, roi sylw i unrhyw ganllawiau amdanynt a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(2) O ran y mesurau sydd i’w cymryd o dan baragraff (1)(a)—

(a)

(a) rhaid iddynt gynnwys cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr), a

(b)

(b) gallant gynnwys cymryd mesurau eraill sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos ac yn cynnal hylendid megis—

(i) cyfyngu ar nifer y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad;

(ii) gwisgo gorchuddion wyneb;

(iii) cyfyngu ar nifer y personau sy’n trin taflenni neu ddeunyddiau eraill.

(3) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)

(a) cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1)(b), a

(b)

(b) rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau). ”

(5) Yn rheoliad 25(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “rheoliadau” mewnosoder “14B, 18A,”.

(6) Yn rheoliad 27(1), o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

“(za)

“(za) rheoliad 18A(1),”.

(7) Yn lle rheoliad 29 rhodder—

S-29

Pwerau sy’n ymwneud â chyfyngiadau teithio

29.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

(2) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio ag ymadael â Chymru.

(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person wedi ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

(4) Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)

(a) cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i Gymru;

(b)

(b) dychwelyd y person i Gymru.

(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)

(a) bod person (“P”) yn bresennol mewn man cychwyn at ddibenion teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, a

(b)

(b) bod y gofyniad yn rheoliad 14B(1) yn gymwys i P a bod P wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad.

(6) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo P i gwblhau ffurflen datganiad teithio rhyngwladol a chaiff bennu amser erbyn pryd y mae’r ffurflen i’w chwblhau.

(7) Mae paragraff (8) yn gymwys—

(a)

(a) pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y cyfyngiad yn rheoliad 14A(1) yn gymwys yn achos person (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn, a

(b)

(b) pan fo P naill ai—

(i) yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 14B(1), ac na fo’n cwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol pan y’i cyfarwyddir i wneud hynny o dan baragraff (5), neu

(ii) yn darparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog gorfodaeth y mae’r swyddog yn ystyried nad yw’n datgelu esgus rhesymol.

(8) Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)

(a) cyfarwyddo P i ymadael â’r man cychwyn heb ymadael â’r Deyrnas Unedig;

(b)

(b) symud y person...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT