(Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014

JurisdictionWales
CitationSI 2014/2653

2014Rhif 2653 (Cy. 261)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

GORCHYMYN Y DRETH GYNGOR

(Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014

24 Medi 2014

1 Hydref 2014

22 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru( 1), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 3(5)(b) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992( 2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 22 Hydref 2014.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn-

ystyr "Gorchymyn 1992" ("the 1992 Order") yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992( 3).

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992

3. Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn-

(a) yn erthygl 2, ar ôl y diffiniad o "multiple property" mewnosoder-

""refuge" means a building in Wales which is operated by a person otherwise than for profit and is used wholly or mainly for the temporary accommodation of persons who have been subject to any incident or pattern of incidents of-

(i) controlling, coercive or threatening behaviour;

(ii) physical violence;

(iii) abuse of any other description (whether physical or mental in nature); or

(iv) threats of any such violence or abuse,

from persons to whom they are or were married, are or were in a civil partnership or with whom they are or were co-habiting;";

(b) yn erthygl 3, yn lle "article 3A" rhodder "articles 3A and 3B";

(c) ar ôl erthygl 3A, mewnosoder yr erthygl a ganlyn-

"3B. A refuge must be treated as a single dwelling."

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn )

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adrannau 3(5)(b) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") ac mae'n diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992 ("Gorchymyn 1992").

Mae adran 3 o Ddeddf 1992 yn diffinio "dwelling" at ddibenion darpariaeth y dreth gyngor ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol trin eiddo sengl sy'n cynnwys mwy nag un uned hunangynhaliol fel pe bai wedi ei ffurfio o'r un nifer o anheddau a'r nifer o unedau hunangynhaliol yn yr eiddo hwnnw. Diffinnir "single property" yng Ngorchymyn 1992 fel eiddo a fyddai, ar wahan i'r Gorchymyn hwnnw, yn un annedd o fewn ystyr "one dwelling" yn adran 3 o Ddeddf...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT