Cancellation of restriction: statement of truth (ST5)
Jurisdiction | England & Wales |
Published date | 29 June 2015 |
Dylai unrhyw rannau o’r ffurflen nad ydynt yn cael eu teipio gael eu llenwi mewn inc du ac mewn prif
lythrennau.
Os bydd angen mwy o le arnoch na’r hyn sydd ar gael mewn panel, ac mae’ch meddalwedd yn caniatáu hynny,
gallwch ehangu unrhyw banel yn y ffurflen. Fel arall defnyddiwch ddalen barhau CS a’i hatodi i’r ffurflen hon.
Cyn y gellir dileu cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr perchnogaeth, rhaid i Gofrestrfa Tir EF fod yn fodlon nad oes angen
y cyfyngiad mwyach. Yn aml, bydd hyn am nad yw’r tir bellach yn ddarostyngedig i ymddiried. Mae ymddiried tir yn
bodoli pan fo perchnogaeth ffurfiol y tir (yr ‘ystad gyfreithiol’) ar wahân i’r berchnogaeth sylfaenol (y ‘budd llesiannol’).
Ni fydd angen y cyfyngiad mwyach os:
− yw’r budd a warchodwyd gan y cyfyngiad wedi dod i ben neu wedi pasio i’r perchennog(perchnogion)
cofrestredig neu i oroeswr(wyr) y rhain, ac
− nad oes gan unrhyw un arall fudd llesiannol yn y tir, ac
− os oes dau neu ragor o berchnogion cofrestredig, eu bod yn dal y tir nawr ar ymddiried ar eu cyfer eu hunain
(a neb arall) fel cyd-denantiaid llesol. Rhaid i gydberchnogion ddal yr ystad gyfreithiol fel cyd-denantiaid, ond
gellir dal eu buddion llesiannol naill ai fel cyd-denantiaid neu fel tenantiaid cydradd. Nid oes gan gyd-
denantiaid gyfrannau penodol yn y tir. Ar farwolaeth un cyd-denant, mae ei fudd yn y tir yn pasio’n awtomatig
i’r llall. Mae gan denantiaid cydradd gyfrannau penodol, y gellir eu trosglwyddo ar wahân, ac fe’u hetifeddir
fel rhan o’u hystad ar eu marwolaeth. (Gweler www.gov.uk/joint-property-ownership)
Ni all Cofrestrfa Tir EF roi cyngor cyfreithiol ond mae canllawiau ar geisiadau i Gofrestrfa Tir EF (gan gynnwys ein
cyfarwyddiadau ymarfer i drawsgludwyr) ar gael o www.gov.uk/land-registry.
I gael gwybodaeth am sut mae Cofrestrfa Tir EF yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, gweler ein Siarter
Gwybodaeth Bersonol.
Rhowch yr enw(au) llawn.
Rhowch y cyfeiriad(au) llawn.
1
Rwyf fi/Rydym ni:
o:
yn gwneud y datganiad hwn i gefnogi cais i Gofrestrfa Tir EF i
ddileu cyfyngiad Ffurf A.
Rhowch rif teitl Cofrestrfa Tir EF a
chyfeiriad yr eiddo y mae’r cyfyngiad yn ei
effeithio.
2
Rhif(au) teitl:
Eiddo:
Rhowch fanylion natur y budd(ion) sy’n
cael ei amddiffyn gan y cyfyngiad a’r hyn
sydd wedi digwydd i’r budd(ion).
Anfonwch gopïau o’r dogfennau, nid y
gwreiddiol, ond cadarnhewch eu bod yn
gopïau gwir trwy ysgrifennu ar ben
tudalen 1: “Tystiaf fod hwn yn gopi gwir
o’r gwreiddiol”, yna llofnodwch eich enw
a’i nodi mewn prif lythrennau, a dyddiwch
eich llofnod.
3
Eglurwch yr hyn sydd wedi digwydd i’r budd llesiannol a
warchodwyd gan y cyfyngiad. (Darparwch wybodaeth gywir a
pherthnasol). Dylech gynnwys copïau ardystiedig o unrhyw
ddogfennau yn dangos hyn.
To continue reading
Request your trial