Certificate of identity for a body corporate (ID4)
Jurisdiction | England & Wales |
Published date | 04 May 2020 |
Dylech lenwi’r ffurflen hon dim ond os na allwch gael eich hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan
drawsgludwr, er enghraifft cyfreithiwr. Os gallwch gael eich hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan
drawsgludwr, llenwch ffurflen ID2.
RHYBUDD
Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod,
neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi
neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd
o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu
ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.
Gellir defnyddio’r ffurflen hon dim ond os oes gennych chi a’r sawl sy’n cadarnhau eich hunaniaeth
basbort llawn y DU ac mae’r cadarnhäwr wedi eich adnabod am o leiaf blwyddyn.
Nid oes yn rhaid ichi lenwi’r ffurflen hon os:
• yw gwir werth y tir y mae’ch cais yn cyfeirio ato yn £6,000 neu lai
• ydych yn delio â Chofrestrfa Tir EF yn rheolaidd ac rydym wedi rhoi llythyr ichi yn cadarnhau eich
hunaniaeth (‘llythyr cyfleuster’)
• ydych yn cofrestru eich eiddo yn wirfoddol am y tro cyntaf ac mae gennych yr holl weithredoedd
gwreiddiol
• ydych yn gwneud cais i gael morgais neu brydles (prydlesi o lai na 7 mlynedd fel arfer) wedi ei nodi ar y
gofrestr
Dylech amgáu eich ffurflen ID4 wedi ei llenwi ynghyd â’ch cais i:
• gofrestru eiddo neu dir am y tro cyntaf, lle mae hyn yn orfodol
• ychwanegu manylion morgais (cofrestru pridiannau)
• tynnu ymaith manylion morgais (cofrestru rhyddhadau) os yw’r dystiolaeth ar bapur
• trosglwyddo eiddo neu dir i rywun arall, gan gynnwys newid ymddiriedolwyr
• ychwanegu neu dynnu ymaith manylion prydles (cofrestru neu ildio prydles).
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon hefyd i ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth os ydych yn gweithredu fel
atwrnai o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.
Rhaid ichi amgáu’r canlynol gyda’ch cais hefyd:
• copi o dudalen manylion personol eich pasbort
• copi o dudalen manylion personol pasbort y sawl sy’n cadarnhau eich hunaniaeth. (Lle bo’r cadarnhäwr
yn cadarnhau hunaniaeth pobl eraill yn ogystal â’ch un chi, rhaid iddo ddarparu copi o’i dudalen
manylion personol i bob person. Nid yw un copi ar gyfer pawb yn dderbyniol.)
• os yw’r cadarnhad yn cael ei wneud trwy ddefnyddio fideoalwad, sgrinlun lliw a dynnwyd yn ystod y
fideoalwad.
Peidiwch ag anfon eich pasbort gwreiddiol atom gyda’ch cais.
Rhaid i’r sgrinlun fod mewn lliw a dangos wynebau’r ddau unigolyn yn edrych yn syth at y camera a rhaid i
bob wyneb fod yn ddigon clir i allu cymharu â’r ffotograff ar y copi o dudalen manylion personol y pasbortau.
Os yw unrhyw un sy’n ymwneud â thrafodiad, neu’r sawl sy’n anfon y cais i Gofrestrfa Tir EF heb ei
gynrychioli gan drawsgludwr, rhaid iddyn nhw gael eu hunaniaeth wedi ei chadarnhau hefyd.
Yr hyn rydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth
Rydym yn gofyn am y wybodaeth hon er mwyn diogelu yn erbyn twyll cofrestru. Lle nad yw ceisydd (neu
bartïon i drafodiad) yn cael eu cynrychioli gan drawsgludwr neu lle collwyd neu dinistriwyd gweithredoedd
teitl, mae’n bwysig cyflwyno tystiolaeth hunaniaeth er mwyn inni allu cofrestru’r trafodiad.
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cydymffurfio â gofynion y deddfwriaeth diogelu data’r DU. Gall gadw a rhannu
gwybodaeth gydag:
• adrannau eraill o’r llywodraeth
To continue reading
Request your trial