Charitable incorporated organisations (PG14a)
| Published date | 13 October 2003 |
| Date | 22 April 2025 |
Ffurf gyfreithiol amgen ar elusen yw sefydliad corfforedig elusennol. Mae Rhan 11 o Ddeddf 2011 yn creu’r fframwaith cyfreithiol sylfaenol, ac fe’i hategir gan Reoliadau Cyffredinol Sefydliadau Elusennol Corfforedig, Rheoliadau Deddf Elusennau 2011 (Sefydliadau Corfforedig Elusennol) (Cyfansoddiadau) 2012 a Rheoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Ansolfedd a Diddymiad) 2012. Daeth rheoliadau i alluogi cwmnïau elusennol a chwmnïau buddiannau cymunedol sy’n bodoli newid i fod yn sefydliadau corfforedig elusennol i rym ar 1 Ionawr 2018 (er mae’n debyg na chaiff ceisiadau i newid cwmnïau buddiannau cymunedol eu derbyn tan fis Medi 2018 a disgwylir cyfarwyddyd pellach o’r Comisiwn Elusennol).
Corff corfforaethol nad yw’n gwmni corfforedig o dan y Ddeddf Cwmnïau yw sefydliad corfforedig elusennol; o ganlyniad, nid yw’n ddarostyngedig i reoliadau cwmnïau. Nid oes angen cofrestru ei fodolaeth neu unrhyw dâl sy’n gysylltiedig ag ef gyda Thŷ’r Cwmnïau. Fodd bynnag, bydd angen cwblhau arwystl am dir a grëwyd gan sefydliad corfforedig elusennol trwy gofrestriad o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 er mwyn cael grym cyfreithiol2. Yn union fel gyda chwmni cyfyngedig, gall sefydliad corfforedig elusennol brynu, gwerthu, prydlesu, morgeisio neu arwystlo, neu waredu eiddo fel arall yn ei enw ei hun. Mae’n bosibl na fydd gan ei aelodau unrhyw atebolrwydd am ei ddyledion, neu bydd ganddynt atebolrwydd cyfyngedig yn unig (adran 27(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Yn sgil cyflwyno’r sefydliad corfforedig elusennol, mae 4 prif strwythur cyfreithiol ar gael i elusennau bellach.
- ymddiried (dogfen lywodraethu: gweithred/datganiad ymddiried neu gynllun y Comisiwn Elusennau, ond mae modd creu ymddiried trwy ewyllys hefyd)
- cymdeithas anghorfforedig (dogfen lywodraethu: cyfansoddiad neu reolau, fel arfer)
- cwmni cyfyngedig trwy warant (dogfen lywodraethu: naill ai memorandwm ac erthyglau cyweithio (os cafodd y cwmni ei ffurfio cyn mis Medi 2009) neu erthyglau cyweithio (os cafodd y cwmni ei sefydlu ar ôl mis Medi 2009)
- sefydliad Corfforedig Elusennol (dogfen lywodraethu: cyfansoddiad)
Mae sefydliad corfforedig elusennol yn dod i fodolaeth ar ôl cael ei gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau, ac mae’n derbyn rhif cofrestru sefydliad corfforedig elusennol. Mae pob sefydliad corfforedig elusennol yn elusen heb ei heithrio sy’n gorfod cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau, waeth beth fo ei lefelau incwm, felly ni all elusen eithriedig fod yn sefydliad corfforedig elusennol. Rhaid i sefydliad corfforedig elusennol gael prif swyddfa yng Nghymru neu Loegr (mae darpariaethau ar wahân yn llywodraethu sefydliad corfforedig elusennol yn yr Alban), cyfeiriad ar gyfer gohebu (y brif swyddfa o bosibl) a chofrestri o aelodau ac ymddiriedolwyr, a rhaid iddo gyflwyno ffurflen a chyfrifon blynyddol.
Bydd statws sefydliad corfforedig elusennol naill ai’n amlwg fel rhan o’i enw (“sefydliad corfforedig elusennol”) neu, fel arall, rhaid nodi ei statws yn glir ym mhob lleoliad, dull cyfathrebu a thrawsgludiad a ddisgrifir yn adran 211 o Ddeddf Elusennau 2011. Bydd cofrestr elusennau’r Comisiwn Elusennau hefyd yn nodi’n glir bod y sefydliad yn sefydliad corfforedig elusennol. Mae methu â chydymffurfio yn arwain at gosb droseddol ar gyfer yr ymddiriedolwyr, ac mae’n bosibl na fydd modd gorfodi contractau a thrawsgludiadau gan y sefydliad corfforedig elusennol os nad yw’n cydymffurfio.
1.3 Cyfansoddiad ac ymddiriedolwyrMae adran 206 o Ddeddf Elusennau 2011 yn nodi bod angen i gyfansoddiad y sefydliad corfforedig elusennol gynnwys darpariaethau penodol, ac mae’r ddau gyfansoddiad enghreifftiol a gyflwynir yn Rheoliadau Cyfansoddiad sefydliad corfforedig elusennol (model sylfaen a model cyswllt) yn bodloni’r gofynion statudol.
Nid oes gan sefydliad corfforedig elusennol “sylfaen” unrhyw aelodau ar wahân i’w ymddiriedolwyr (yr ymddiriedolwyr yw’r aelodau). Mae gan sefydliad corfforedig elusennol “cyswllt” aelodau pleidleisio ar wahân i ymddiriedolwyr yr elusen. Gall aelodau’r sefydliad corfforedig elusennol benderfynu diwygio ei gyfansoddiad, ond nid os yw hynny’n newid statws elusennol y sefydliad corfforedig elusennol; nid yw unrhyw ddiwygiadau’n weithredol hyd nes eu bod wedi eu cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (adrannau 224(2), 225 a 227 o Ddeddf Elusennau 2011). Mae angen caniatâd y Comisiwn Elusennau ar gyfer rhai diwygiadau, gan gynnwys newidiadau i’r cymal dirwyn-i-ben/diddymu gwirfoddol, ac unrhyw ddarpariaeth sy’n awdurdodi budd ar gyfer ymddiriedolwyr yr elusen neu aelodau neu bersonau sy’n gysylltiedig â nhw. Rhaid i bob sefydliad corfforedig elusennol gadw cofrestr o ymddiriedolwyr a rhaid i sefydliad corfforedig elusennol cyswllt gadw cofrestr o aelodau hefyd.
Rhaid i sefydliad corfforedig elusennol gael o leiaf un ymddiriedolwr (adran 206(2)(b) o Ddeddf Elusennau 2011). Mae’r gyfraith yn caniatáu ymddiriedolwyr corfforaethol, ond mae’r Comisiwn Elusennau yn argymell y dylai ymddiriedolwyr fod yn unigolion (dros 16 oed) ac, os oes gan y sefydliad corfforedig elusennol aelodau corfforaethol, na ddylai’r sefydliad corfforedig elusennol gael cyfuniad o ymddiriedolwyr corfforaethol ac unigol (gweler y Nodiadau i gymal 9 a chymal 12 ar 2 ffurf y cyfansoddiad yn Rheoliadau Cyfansoddiad y sefydliad corfforedig elusennol). Mae’n ymddangos bod y ddau fodel ar gyfer cyfansoddiad sefydliad corfforedig elusennol sy’n cael eu cynnwys yn Rheoliadau Cyfansoddiad sefydliad corfforedig elusennol yn ei gwneud yn ofynnol i ymddiriedolwyr yr elusen fod yn “fodau dynol”.
Ni all person fod yn ymddiriedolwr os yw wedi ei anghymhwyso, er enghraifft, oherwydd collfarn am unrhyw drosedd yn ymwneud ag anonestrwydd neu dwyll, neu fethdaliad, neu os yw’n cael ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr oherwydd camymddwyn neu gamreoli (mae’r manylion llawn ar gael yn adran 180(2) o Ddeddf Elusennau 2011, fel y’i newidiwyd gan reoliad 5 o Orchymyn Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Newidiadau Canlyniadol) 2012). Fodd bynnag, mae gweithred a gyflawnir gan berson anghymwys fel ymddiriedolwr elusennol sefydliad corfforedig elusennol yn ddilys er gwaethaf yr anghymhwyso (rheoliad 32 o Reoliadau Cyffredinol sefydliad corfforedig elusennol).
1.4 PwerauYn ddarostyngedig i delerau ei gyfansoddiad, mae gan sefydliad corfforedig elusennol y pŵer i wneud unrhyw beth sy’n hyrwyddo ei ddibenion neu sy’n cyd-fynd â hynny neu’n atodol iddo (adran 216(1) o Ddeddf Elusennau 2011). Er bod hyn yn ddarostyngedig i unrhyw beth yng nghyfansoddiad y sefydliad corfforedig elusennol, ni all y cyfansoddiad gynnwys darpariaeth a fyddai’n cyfyngu ar allu’r sefydliad corfforedig elusennol i waredu ei eiddo (rheoliad 14 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012). Caiff pwerau eu gweithredu gan ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol. Mae 2 fodel y Comisiwn Elusennau ar gyfer cyfansoddiad sefydliad corfforedig elusennol yn ailddatgan y pŵer statudol cyffredinol, ond maent hefyd yn cynnwys rhestr fer o bwerau penodol, gan gynnwys pŵer i fenthyg ac arwystlo holl eiddo’r sefydliad corfforedig elusennol, neu unrhyw ran ohono, i sicrhau benthyciad. Yn y nodiadau rhagarweiniol i’r ddau gyfansoddiad enghreifftiol, mae’r Comisiwn yn datgan: “To simplify the CIO framework, there is currently no provision for CIOs to issue debentures, or for a register of charges (mortgages etc) over CIO property.”
Mae Rheoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012 yn cymhwyso (fel y’u newidiwyd) y rhan fwyaf o Ran 4 ac adran 32 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 i sefydliad corfforedig elusennol, fel bod ymddiriedolwyr sefydliad corfforedig elusennol yn gallu dirprwyo swyddogaethau i asiant. Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddi asedau’r sefydliad corfforedig elusennol , gan gynnwys rheoli, creu neu waredu budd mewn tir sy’n cael ei ddal fel buddsoddiad. Mae cyfansoddiadau enghreifftiol y Comisiwn Elusennau ar gyfer sefydliad corfforedig elusennol yn ymestyn pwerau Deddf Ymddiriedolwyr 2000 fel y gall ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol ddirprwyo unrhyw un o’u pwerau neu eu swyddogaethau i bwyllgorau, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu penodol.
1.5 Cyflwyno dogfennauGellir cyflwyno dogfennau i sefydliad corfforedig elusennol trwy fynd â nhw, neu eu postio, i’w brif swyddfa fel y’i nodir yn y gofrestr elusennau. Gellir cyflwyno dogfennau i ymddiriedolwr neu reolwr dros dro (I gael gwybodaeth am reolwyr dros dro, gweler Ymyriad gan y Comisiwn Elusennau trwy fynd â nhw, neu eu postio, i gyfeiriad cyflwyno’r person hwnnw, fel y’i nodir yn y gofrestr o ymddiriedolwyr elusen y sefydliad corfforedig elusennol. Cyflwynir dogfen yn ddilys trwy ei hanfon i’r cyfeiriad a nodir o fewn 14 diwrnod i ddyddiad yr arolygiad, hyd yn oed os yw’r cyfeiriad yn newid wedyn (rheoliadau 47 a 48 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012.
2. Gwneud ceisiadau (cyffredinol) 2.1 Cofrestriad cyntafDylid gwneud cais am gofrestriad cyntaf gan (neu ar ran) y sefydliad corfforedig elusennol yn enw’r unigolyn/enwau’r unigolion y mae’r ystad i gael ei chofrestru iddo/iddynt. O safbwynt ystadau digofrestredig sy’n ddarostyngedig i forgais cyfreithiol cyntaf, mae rheol 21 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn galluogi’r morgeisai i wneud cais am gofrestriad cyntaf.
Rhaid defnyddio ffurflen FR1 os yw’r cais am gofrestriad cyntaf ystad rydd-ddaliol neu am gofrestriad cyntaf ystad brydlesol lle na chofrestrwyd y rhydd-ddaliad.
I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am geisiadau am gofrestriad cyntaf, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.
2.2 Gwaredu ystadau cofrestredigO ran gwarediadau ystadau cofrestredig, nid oes unrhyw gyfyngiad ar bwy all wneud cais i gofrestru gwarediad y sefydliad corfforedig elusennol.
Rhaid gwneud ceisiadau trwy ddefnyddio ffurflen AP1, gan...
Get this document and AI-powered insights with a free trial of vLex and Vincent AI
Get Started for FreeStart Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant
-
Access comprehensive legal content with no limitations across vLex's unparalleled global legal database
-
Build stronger arguments with verified citations and CERT citator that tracks case history and precedential strength
-
Transform your legal research from hours to minutes with Vincent AI's intelligent search and analysis capabilities
-
Elevate your practice by focusing your expertise where it matters most while Vincent handles the heavy lifting
Start Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant