Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2019

JurisdictionWales
CitationWSI 2019/51 (W16) (Cymru)

2019 Rhif 51 (Cy. 16)

Aer Glân, Cymru

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2019

Gwnaed 15th January 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16th January 2019

Yn dod i rym 6th February 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 21(5) o Ddeddf Aer Glân 19931.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y gellir defnyddio’r lleoedd tân a esemptir gan y Gorchymyn hwn i losgi tanwydd nad yw’n danwydd awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2019 a daw i rym ar 6 Chwefror 2019.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

S-2 Dosbarthau ar leoedd tân a esemptir rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993

Dosbarthau ar leoedd tân a esemptir rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993

2. Mae unrhyw ddosbarth ar le tân a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen, ar yr amod neu’r amodau a bennir yn yr Atodlen mewn perthynas â’r lle tân hwnnw, wedi ei esemptio rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (gwahardd allyrru mwg mewn ardal rheoli mwg).

S-3 Dirymu

Dirymu

3. Mae Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 20172wedi ei ddirymu.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.

15 Ionawr 2019

YR ATODLEN

Erthygl 2

YR ATODLEN

DOSBARTHAU ESEMPT AR LEOEDD TÂN

DOSBARTHAU ESEMPT AR LEOEDD TÂN

Dosbarth ar le tân

Yr Amodau

Rhaid gosod, cynnal a gweithredu’r lle tân yn unol â’r manylebau canlynol:

Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd ac eithrio tanwyddau awdurdodedig a’r tanwydd neu’r tanwyddau canlynol:

Aarrow 1 Series 400: gwresogydd ystafell mewnosod sy’n llosgi coed a 400 T F: stof llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Arada Stoves Ltd., The Fireworks, Weycroft Avenue, Axminster, Dyfnaint, EX13 5HU.

Y llawlyfr gweithredu a gosod sydd â’r cyfeirnod “Part No. AFS 1589de” dyddiedig Gorffennaf 2014. Rhaid gosod stop mecanyddol ar yr offeryn i atal y lifer rheoli aer rhag cau y tu hwnt i’r safle 10mm agored.

Boncyffion coed1000.

Aarrow 1 Series 500: gwresogydd ystafell mewnosod sy’n llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Arada Stoves Ltd., The Fireworks, Weycroft Avenue, Axminster, Dyfnaint, EX13 5HU.

Y llawlyfr gweithredu a gosod sydd â’r cyfeirnod “Part No. AFS 1789de” dyddiedig Gorffennaf 2014. Rhaid gosod stop mecanyddol ar yr offeryn i atal y lifer rheoli aer rhag cau y tu hwnt i’r safle 10mm agored.

Boncyffion coed(1).

Aarrow 1 Series 600: gwresogydd ystafell mewnosod sy’n llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Arada Stoves Ltd., The Fireworks, Weycroft Avenue, Axminster, Dyfnaint, EX13 5HU.

Y llawlyfr gweithredu a gosod sydd â’r cyfeirnod “Part No. AFS 1789de” dyddiedig Gorffennaf 2014. Rhaid gosod stop mecanyddol ar yr offeryn i atal y lifer rheoli aer rhag cau y tu hwnt i’r safle 9mm agored.

Boncyffion coed(1).

Aarrow 1 Series 750: gwresogydd ystafell mewnosod sy’n llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Arada Stoves Ltd., The Fireworks, Weycroft Avenue, Axminster, Dyfnaint, EX13 5HU.

Y llawlyfr gweithredu a gosod sydd â’r cyfeirnod “Part No. AFS 1789de” dyddiedig Gorffennaf 2014. Rhaid gosod stop mecanyddol ar yr offeryn i atal y lifer rheoli aer rhag cau y tu hwnt i’r safle 7mm agored.

Boncyffion coed(1).

Stofiau llosgi coed Aarrow ECB5 Plus SC 5kW ac ECB7 Plus SC 7kW. Gweithgynhyrchwyd gan Arada Limited, The Fireworks, Weycroft Avenue, Axminster, Dyfnaint, EX13 5HU.

Y Llawlyfr Gweithredu a Gosod dyddiedig Gorffennaf 2015 sydd â’r cyfeirnod “ECB Plus SC Rev 06”.

Boncyffion coed(1).

Aarrow Ecoburn 5F plus 4.9kW: stof amldanwydd. Gweithgynhyrchwyd gan Arada Limited, The Fireworks, Weycroft Avenue, Axminster, Dyfnaint, EX13 5HU.

Y Canllaw Defnyddio Stof ECOBURN PLUS dyddiedig 01/09/2016 sydd â’r cyfeirnod “Rev 05”. Rhaid gosod stop parhaol i atal y rheolydd aer eilaidd rhag cau y tu hwnt i 20% agored.

Boncyffion coed(1).

Aarrow Ecoburn 5F plus Widescreen 4.99kW: stof amldanwydd. Gweithgynhyrchwyd gan Arada Limited, The Fireworks, Weycroft Avenue, Axminster, Dyfnaint, EX13 5HU.

Y Canllaw Defnyddio Stof ECOBURN PLUS dyddiedig 01/09/2016 sydd â’r cyfeirnod “Rev 05”. Rhaid gosod stop parhaol i atal y rheolydd aer eilaidd rhag cau y tu hwnt i 50% agored.

Boncyffion coed(1).

Aarrow Signature 5 SC, Aarrow Ecoburn 5 SC, Hamlet Solution 5 SC a Villager Espirit 5 SC. Gweithgynhyrchwyd gan Arada Ltd., The Fire Works, Ystad Ddiwydiannol Millwey, Axminster, Dyfnaint, EX13 5HU.

Y llawlyfr cyfarwyddiadau sydd â’r cyfeirnod “Rev 02” dyddiedig Ebrill 2010. Rhaid gosod stop mecanyddol ar yr offeryn i atal y rheolydd aer rhag cau y tu hwnt i 20mm o’r safle caeedig a 50mm o’r safle llwyr agored.

Boncyffion coed(1).

Accona 5kW: stof amldanwydd. Gweithgynhyrchwyd gan F2 Fires Ltd, Trident House, Tower Road, Darwen, Swydd Gaerhirfryn, BB3 2DU, y Deyrnas Unedig.

Y Llawlyfr Gosod a Gweithredu dyddiedig 26/11/2018 sydd â’r cyfeirnod “Accona Rev7”. Rhaid gosod stop parhaol ar yr offeryn er mwyn atal y rheolydd aer eilaidd rhag cau y tu hwnt i’r safle 6mm agored.

Boncyffion coed(1).

Acquisitions Bloomsbury 5kW: stof. Gweithgynhyrchwyd gan Esse Engineering Ltd., Ouzledale Foundry, Long Ing, Barnoldswisk, Swydd Gaerhirfryn, BB18 6BN.

Y llawlyfr cyfarwyddiadau sydd â’r cyfeirnod “01/12(PP)” dyddiedig Ionawr 2012. Rhaid gosod system ar yr offeryn sy’n atal y rheolyddion aer rhag cau y tu hwnt i’r safle 50% agored.

Boncyffion coed(1).

Acquisitions Bloomsbury SE 8kW: Stof Amldanwydd Esempt o ran Mwg. Gweithgynhyrchwyd gan Esse Engineering Ltd., Ouzledale Foundry, Long Ing, Barnoldswick, Swydd Gaerhirfryn, BB18 6BN.

Y llawlyfr cyfarwyddiadau sydd â’r cyfeirnod “AB-8kW-I05-310114” dyddiedig 31 Ionawr 2014.

Boncyffion coed(1).

Acquisitions Cannonbury 4 a 5. Gweithgynhyrchwyd gan Esse Engineering Ltd., Ouzledale Foundry, Long Ing, Barnoldswisk, Swydd Gaerhirfryn, BB18 6BN.

Y llawlyfr cyfarwyddiadau gosod a gweithredu sydd â’r cyfeirnod “v71 of 09/11/2010” dyddiedig 9 Tachwedd 2010.

Boncyffion coed(1).

ACR Astwood Multifuel AW1MF: stof. Gweithgynhyrchwyd gan ACR Heat Products Ltd., Unit 1, Weston Works, Weston Lane, Tyseley, Birmingham, B11 3RP.

Y llawlyfr cyfarwyddiadau sydd â’r cyfeirnod “AW1MF 0101 Version 3” dyddiedig 28 Ionawr 2013. Rhaid gosod stop mecanyddol ar yr offeryn i atal lifer y rheolydd aer eilaidd rhag cau y tu hwnt i’r safle 12mm agored.

Boncyffion coed(1).

Acunto Napoli GA 80: ffwrn llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Gianni Acunto Forni s.r.l., viale Maria Bakunin 12, 80125, Napoli, yr Eidal.

Y Llawlyfr Defnyddio a Chynnal a Chadw; ffyrnau’r gyfres GA, modelau 80, 105, 120, 130, 140 dyddiedig 30/10/2018 sydd â’r cyfeirnod “GA Series update instructions 30 October 2018”.

Boncyffion Coed(1).

Acunto Napoli GA 105: ffwrn llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Gianni Acunto Forni s.r.l., viale Maria Bakunin 12, 80125, Napoli, yr Eidal.

Y Llawlyfr Defnyddio a Chynnal a Chadw; ffyrnau’r gyfres GA, modelau 80, 105, 120, 130, 140 dyddiedig 30/10/2018 sydd â’r cyfeirnod “GA Series update instructions 30 October 2018”.

Boncyffion Coed(1).

Acunto Napoli GA 120: ffwrn llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Gianni Acunto Forni s.r.l., viale Maria Bakunin 12, 80125, Napoli, yr Eidal.

Y Llawlyfr Defnyddio a Chynnal a Chadw; ffyrnau’r gyfres GA, modelau 80, 105, 120, 130, 140 dyddiedig 30/10/2018 sydd â’r cyfeirnod “GA Series update instructions 30 October 2018”.

Boncyffion Coed(1).

Acunto Napoli GA 130: ffwrn llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Gianni Acunto Forni s.r.l., viale Maria Bakunin 12, 80125, Napoli, yr Eidal.

Y Llawlyfr Defnyddio a Chynnal a Chadw; ffyrnau’r gyfres GA, modelau 80, 105, 120, 130, 140 dyddiedig 30/10/2018 sydd â’r cyfeirnod “GA Series update instructions 30 October 2018”.

Boncyffion Coed(1).

Acunto Napoli GA 140: ffwrn llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Gianni Acunto Forni s.r.l., viale Maria Bakunin 12, 80125, Napoli, yr Eidal.

Y Llawlyfr Defnyddio a Chynnal a Chadw; ffyrnau’r gyfres GA, modelau 80, 105, 120, 130, 140 dyddiedig 30/10/2018 sydd â’r cyfeirnod “GA Series update instructions 30 October 2018”.

Boncyffion Coed(1).

Aduro 3D, 8D, 10D, 11D ac Asgård 1D, 2D a 7D: stofiau llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Aduro AS, Beringvej 17, DK-8361, Hasselager, Denmarc a weithgynhyrchir yn flaenorol gan Aduro A/S, Silkeborgvej 765 8220, Brabrand, Denmarc.

Y llawlyfr cyfarwyddiadau sydd â’r cyfeirnod “Pexex1001/AH/ver1” dyddiedig Mehefin 2011. Rhaid gosod stopiau parhaol ar yr offeryn i atal y prif reolydd aer a’r rheolydd aer eilaidd rhag cau y tu hwnt i 95% a 50% yn eu trefn.

Boncyffion coed sych(1).

Aduro 9D: stof llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Aduro AS, Beringvej 17, DK-8361, Hasselager, Denmarc a weithgynhyrchwyd yn flaenorol gan Aduro A/S, Silkeborgvej 765 8220, Brabrand, Denmarc.

Y llawlyfr cyfarwyddiadau sydd â’r cyfeirnod “Pevex1002/AH/ ver1” dyddiedig Mehefin 2011. Rhaid gosod stopiau parhaol ar yr offeryn i atal y prif reolydd aer a’r rheolydd aer eilaidd rhag cau y tu hwnt i 95% a 50% yn eu trefn.

Boncyffion coed sych(1).

Aduro 15 ac 15-1 6.5kW: stofiau llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Aduro AS, Beringvej 17, DK-8361, Hasselager, Denmarc.

Y llawlyfr cyfarwyddiadau sydd â’r cyfeirnod “Version 1 – 2014-07” dyddiedig Gorffennaf 2014. Rhaid gosod stop parhaol ar yr offeryn i atal y llithrydd aer eilaidd rhag cau y tu hwnt i’r safle 55% agored.

Boncyffion coed(1).

Aduro 16 5kW: stof llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan Aduro AS, Beringvej 17, DK-8361, Hasselager, Denmarc.

Y Llawlyfr cyfarwyddiadau dyddiedig Gorffennaf 2015 sydd â’r cyfeirnod “Version 1 – 2015.07”. Rhaid gosod stop parhaol ar yr offeryn i atal y llithrydd aer eilaidd rhag cau y tu hwnt i’r safle 67% agored.

Boncyffion coed(1).

AGA Dorrington SE 6kW: stof llosgi coed. Gweithgynhyrchwyd gan AGA Rangemaster, Station Road, Ketley, Telford, Swydd Amwythig, TF1 5AQ.

Y cyfarwyddiadau...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT