Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2005/3226 (Cymru)
Year2005

2005Rhif 3226 (Cy.238)

DATBLYGU ECONOMAIDD, CYMRU

Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005

22 Tachwedd 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 1 ac Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.-

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 a daw i rym drannoeth y diwrnod y gwneir ef.

(2) Yn y Gorchymyn hwn-

mae i "aliwn" (alien) yr ystyr a roddir i "alien" gan adran 51(4) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 2;

ystyr yr "Awdurdod" (theAgency) yw Awdurdod Datblygu Cymru;

ystyr "cyflogai perthnasol" (relevant employee) yw unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod o dan gontract cyflogaeth;

ystyr y "Cynulliad" (theAssembly) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "Deddf 1975" (1975 Act) yw Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 3; ac

ystyr "dyddiad trosglwyddo" (transfer date) yw 1 Ebrill 2006.

Trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad

2.-

(1) Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Awdurdod yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau sy'n ymwneud â'r Awdurdod er mwyn-

(a) trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a(b) gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu'n atodol neu'n ategol iddo.

(2) Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yn rhinwedd y paragraff hwn yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd yr Awdurdod â hawl iddynt neu yr oedd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw.

(3) Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sydd yn codi o dan gontract cyflogaeth a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Awdurdod.

(4) Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 4 yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.

(5) Er gwaethaf unrhyw beth mewn unrhyw ran arall o'r Gorchymyn hwn neu yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, os effaith yr erthygl hon yw bod person sydd yn aliwn yn dod yn aelod o staff y Cynulliad, nid yw adran 34(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i gontract cyflogaeth y person hwnnw cyn y dyddiad trosglwyddo.

(6) Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant a diymwad o'r trosglwyddiad.

(7) Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.

Darpariaethau trosiannol

3.-

(1) Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sydd wedi cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.

(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw-

(a) yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a(b) wrthi'n cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.

(3) Mae unrhyw beth-

(a) a wnaed gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy, a(b) sy'n effeithiol yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,

i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth bernir bod unrhyw orchmynion prynu gorfodol a wnaed gan yr Awdurdod mewn perthynas â thir yng Nghymru o dan adran 2(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981 5 ac na chawsant eu cadarnhau cyn y dyddiad trosglwyddo yn orchmynion prynu gorfodol a wnaed mewn drafft gan y Cynulliad o dan y weithdrefn a nodir yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

(4) Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Awdurdod mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud-

(a) ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod, a(b) ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),

ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.

(5) Caiff y Cynulliad-

(a) barhau i ddal eiddo a ddelir gan yr Awdurdod, a(b) parhau i ymgymryd â gweithgareddau yr oedd yr awdurdod yn ymgymryd â hwy,

yn ddibynnol ar adran 21(2) o Ddeddf Diwydiant 1980 6.

(6) Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Awdurdod, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir ym mharagraff 8 o Atodlen 3 (Darpariaethau ariannol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r Awdurdod) i Ddeddf 1975 yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy-

(a) rhwymedigaeth yr Awdurdod o dan is-baragraff (1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad;(b) rhwymedigaeth y Cynulliad o dan is-baragraff (3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac(c) rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-baragraff (4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.

Lwfansau adeiladau diwydiannol

4.-

(1) Nid yw trosglwyddo eiddo oddi wrth yr Awdurdod i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn yn peri unrhyw lwfansau neu ffioedd o dan Ddeddf Lwfansau Cyfalafol 2001.

(2) O ran yr eiddo a gynhwysir yn y trosglwyddo, at ddibenion cyfrifo lwfansau adeilad diwydiannol o dan y Ddeddf honno mae unrhyw beth a wneir i'r Awdurdod neu ganddo cyn y trosglwyddo i'w drin ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud i'r Cynulliad neu ganddo.

Diddymu

5.Ar drosglwyddo ei swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynulliad ar y dyddiad trosglwyddo yn unol ag erthygl 2, daw bodolaeth yr Awdurdod i ben.

Dirwyn i ben

6.Rhaid i'r Awdurdod roi i'r Cynulliad yr holl wybodaeth a gwneud yr holl bethau eraill sy'n ymddangos i'r Cynulliad eu bod yn briodol er mwyn hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad ac er mwyn hwyluso'i ddiddymiad yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau i, diddymiadau a dirymiadau o ddeddfwriaeth bresennol

7.-

(1) Ar y dyddiad trosglwyddo-

(a) diwygir darpariaethau Deddf 1975 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno;(b) diwygir y deddfiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno; ac(c) diddymir neu dirymir y deddfiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn.

(2) Mae'r diwygiadau, y diddymu a'r dirymu deddfiadau yn estyn i'r un gradd â'r deddfiad y'i diwygir, diddymir neu y'i dirymir.

Darpariaethau arbed

8.-

(1) Mae unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) o Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym er gwaethaf diddymiad yr adran honno.

(2) Mae paragraff 7 o Atodlen 2 (Aelodau staff Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) i Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym o ran unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth o'r Gorfforaeth Ystadau Diwydianol Cymru i gyflogaeth yr Awdurdod.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 7

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005

ATODLEN 1

Erthygl 7(1)

Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975

1.Mae Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r diwygiadau canlynol.

2.Oni ddarperir fel arall yn y darpariaethau canlynol, ym mhob man y digwydd (gan gynnwys ym mhenawdau'r adrannau a'r atodlenni)-

(a) yn lle "Agency" rhodder "Assembly"; a(b) yn lle "Agency's" rhodder "Assembly's".

3.Yn adran 1 (Awdurdod Datblygu Cymru)-

(1) yn lle is-adran (1), rhodder-

(1) The functions specified in the following provisions of this Act are conferred upon the National Assembly for Wales (in this Act referred to as the "Assembly").;

(2) yn is-adrannau (2), (3)(j), (4), (6) (yn y lle cyntaf y digwydd), a (7)(l), yn lle "their" rhodder "its";

(3) yn is-adrannau (2) a (4) ar ôl "functions" rhodder "under this Act";

(4) yn is-adran (3), yn union o flaen "shall be" rhodder "under this Act";

(5) yn is-adran (7), ar ôl "have power" rhodder "in connection with its functions under this Act";

(6) ar ddiwedd is-adran (7)(m), mewnosoder "under this Act";

(7) hepgorer is-adrannau (8) i (13) a (15);

(8) yn lle is-adran (14) rhodder-

(14) The Assembly shall, after consultation with such local authorities, National Park authorities and other bodies as appear to the Assembly to have an interest, from time to time prepare and publish programmes for the performance of such of its functions under this Act as it considers appropriate.

; a

(9) yn lle'r pennawd i adran 1 rhodder "Welsh development".

4.Hepgorer adran 2 (Cyfansoddiad a statws).

5.Yn adran 4 (Pwerau ategol)-

(1) ar ôl "power" rhodder "in connection with its functions under this Act";

(2) ym mharagraff (a), yn lle "their services as they think" rhodder "its services as it thinks";

(3) ym mharagraff (b) yn lle "them" rhodder "it" ac yn lle "of their" rhodder "such"; a

(4) ym mharagraff (c) yn lle "their" rhodder "such".

6.Yn is-adran (1) o adran 5 (Cymorth i'r Awdurdod gan awdurdodau cyhoeddus a phersonau eraill) yn lle "their" rhodder "its".

7.Yn lle adran 6 (Y pwer i ffurfio pwyllgorau) rhodder-

6.-

(1) The Assembly...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT