Gorchymyn Caniatad Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012

JurisdictionWales
CitationSI 2012/210

2012Rhif 210 (Cy.36)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Caniatad Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012

27 Ionawr 2012

Y n dod i rym

31 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(1) a (6) o Ddeddf Cynllunio 2008( 1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 203(9) o'r Ddeddf honno gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caniatad Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012.

(2) Daw i rym ar 31 Ionawr 2012.

(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990( 2).

Darpariaethau mewn perthynas a Chymru

2. Yn adran 108( 3). o'r Ddeddf (iawndal am wrthod neu roi caniatad cynllunio amodol a roddwyd gynt drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol)-

(a) yn is-adran (2A)(a) hepgorer "in England";(b) yn is-adran (2A)(b) hepgorer "in England";(c) yn is-adran (3C)(a) hepgorer "in England";(ch) yn is-adran (3D) hepgorer paragraff (a);(d) yn is-adran (6), ar ôl "Secretary of State", mewnosoder "in relation to England and the Welsh Ministers in relation to Wales,".

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 107 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("y Ddeddf") yn darparu bod iawndal yn daladwy pan fo caniatad cynllunio a roddwyd gan awdurdod cynllunio lleol yn cael ei ddirymu neu ei addasu ar ôl hynny. Mae adran 108 o'r Ddeddf yn estyn yr hawl hon i gael iawndal i amgylchiadau pan fo caniatad cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 108 fel y mae'n gymwys i Gymru.

Mae diwygiad i is-adran (2A) o adran 108 yn darparu ar gyfer sefyllfa lle y mae caniatad cynllunio o ddisgrifiad rhagnodedig a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl drwy ddyroddi cyfarwyddiadau o dan y pwerau a roddwyd gan y gorchymyn hwnnw. Canlyniad y diwygiad yw mai dim ond os yw cais am ganiatad cynllunio ar gyfer datblygiad a ganiatawyd gynt drwy'r gorchymyn hwnnw yn cael ei wneud o fewn 12 mis i'r dyddiad y daeth y cyfarwyddiadau'n effeithiol y bydd...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT