Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Llandeilo i Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/499 |
Year | 2020 |
2020Rhif 499 (Cy. 119)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed12Mai2020
Yn dod i rym18Mai2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o gefnffordd yr A40, wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a/neu ei wahardd ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Llandeilo i Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2020 a daw i rym ar 18 Mai 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2); a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 00:01 o'r gloch ar 18 Mai 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A40 Abertawe i Fanceinion;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Cyfyngiadau a Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 10 milltir yr awr ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlenni i'r Gorchymyn hwn.
5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, ddefnyddio cerbyd na chaniatáu i gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt...
To continue reading
Request your trial