Gorchymyn Cefnffordd yr A466 (Cylchfan Newhouse i Gylchfan High Beech, Cas-gwent, Sir Fynwy) (Gwahardd Troadau Pedol) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/259
Year2020

2020Rhif 259 (Cy. 60)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A466 (Cylchfan Newhouse i Gylchfan High Beech, Cas-gwent, Sir Fynwy) (Gwahardd Troadau Pedol) 2020

Gwnaed25Chwefror2020

Yn dod i rym27Chwefror2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd yr A466, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1), 2(1) a 2(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1) ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog Heddlu Gwent, yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A466 (Cylchfan Newhouse i Gylchfan High Beech, Cas-gwent, Sir Fynwy) (Gwahardd Troadau Pedol) 2020 a daw i rym ar 27 Chwefror 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y gefnffordd”(“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A466 Llundain i Abergwaun.

Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd wneud troad pedol wrth fynd ar naill ai cerbytffordd tua'r gogledd neu gerbytffordd tua'r de y gefnffordd o'i chyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol Cylchfan Newhouse hyd at ei chyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol Cylchfan High Beech.

Esemptiad

4. Nid oes dim yn erthygl 3 sy'n gwahardd cerbyd rhag gwneud troad pedol—

(a) pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y frigâd dân, y gwasanaeth ambiwlans neu'r heddlu; neu

(b) pan fo'r person sy'n ei reoli yn gweithredu yn ôl cyfarwyddyd neu â chaniatâd cwnstabl heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog gorfodi sifil.

Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 25 Chwefror 2020

Richard Morgan

Pennaeth Cynllunio, Rheoli Asedau a Safonau

Llywodraeth Cymru

(1) 1984 p. 27; diwygiwyd adrannau 1(1), 2(1) a (2) gan adran 168 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22)a pharagraffau 17 a 18 o Atodlen 8 iddi, a diwygiwyd adran 1(1) gan...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT