Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Llanrwst, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Gwahardd Cerbydau a Beicwyr Dros Dro) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/488

2020Rhif 488 (Cy. 113)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Llanrwst, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Gwahardd Cerbydau a Beicwyr Dros Dro) 2020

Gwnaed5Mai2020

Yn dod i rym11Mai2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A470, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Llanrwst, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Gwahardd Cerbydau a Beicwyr Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 11 Mai 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 00:01 o'r gloch ar 11 Mai 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod o'r gwaith eu symud ymaith;

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw'r darn o gefnffordd yr A470 Maentwrog i Fan i'r Dwyrain o Gonwy sy'n ymestyn o'i chyffordd â Ffordd Pari hyd at ei chyffordd â'r A548 Heol Dinbych a'r darn o'r gefnffordd sy'n ymestyn o'i chyffordd â'r A548 Heol Dinbych hyd at ei chyffordd â'r B5106 y Bont Fawr.

Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

Cymhwyso

5. Ni fydd y gwaharddiadau yn erthyglau 3 a 4 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

6. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 5 Mai 2020

Nicci Hunter

Arweinydd Tîm Busnes

Llywodraeth Cymru

(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT