Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Llanfair-ym-Muallt i Langurig, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2022
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2022/3 (W3) (Cymru) |
Year | 2022 |
2022 Rhif 3 (Cy. 3)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Llanfair-ym-Muallt i Langurig, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2022
Gwnaed 5 Ionawr 2022
Yn dod i rym 11 Ionawr 2022
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A470, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffordd yr A470 (Llanfair-ym-Muallt i Langurig,
Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim
Goddiweddyd) 2022 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar
11 Ionawr 2022.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf
Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26) ac
Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o
Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hyn yn arferadwy
bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
(a) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y
dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf
Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1); a
(b) unrhyw gerbyd sy’n cael ei ddefnyddio at
ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr
ac sy’n cael ei yrru gan berson sydd am y tro
yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o
luoedd arfog y Goron, sy’n aelod o’r lluoedd
arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar
gyflymderau uchel ac sy’n gweithredu
wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i
argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru
cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw
cyfnodau ysbeidiol a fydd yn cychwyn am 08:00
o’r gloch ar 11 Ionawr 2022 ac a ddaw i ben pan
fydd yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob
cyfnod o waith wedi eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw
cefnffordd yr A470 Caerdydd i Langurig sy’n
ymestyn o’i chyffordd gylchfan â’r A483 yn
Llanfair-ym-Muallt hyd at ei chyffordd gylchfan
â’r A44 yn Llangurig, Powys;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r
unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae
Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am
gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn
ddarostyngedig i reolaeth weithredol y
Cyfarwyddwr hwnnw.
...To continue reading
Request your trial