Gorchymyn Cefnffordd yr A479 (Parc Glan-wysg i Fronllys, Powys) (Gwahardd Traffig Dros Dro) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/702
Year2020

2020Rhif 702 (Cy. 156)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A479 (Parc Glan-wysg i Fronllys, Powys) (Gwahardd Traffig Dros Dro) 2020

Gwnaed7Gorffennaf2020

Yn dod i rym10Gorffennaf2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A479, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A479 (Parc Glan-wysg i Fronllys, Powys) (Gwahardd Traffig Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 10 Gorffennaf 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 00:01 o'r gloch ar 10 Gorffennaf 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw darn o gefnffordd yr A479 Parc Glan-wysg i Lyswen sy'n ymestyn o ganolbwynt ei chyffordd â chefnffordd yr A40 ym Mharc Glan-wysg hyd at y gyffordd gylchfan â'r A438 ym Mronllys.

Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, gerdded ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

6. Ni chaiff unrhyw farchogwr, yn ystod cyfnod y gwaith, fynd ar hyd o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

7. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, caniatáu i unrhyw da byw fynd ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

Cymhwyso

8. Nid yw'r gwaharddiadau yn erthyglau 3, 4, 5, 6 a 7 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

9. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT