Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Heol Newydd a Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin) (Terfyn Cyflymder Rhan-amser o 20 mya) 2017
Jurisdiction | England & Wales |
Citation | WSI 2017/313 |
Year | 2017 |
2017Rhif 313 (Cy. 81)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed28Chwefror2017
Yn dod i rym3Mawrth2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd Abertawe – Manceinion (yr A483) (‘y gefnffordd’), drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(1), (1A) a (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1) ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog Heddlu Dyfed-Powys, yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Dehongli a Chychwyn
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Mawrth 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Heol Newydd a Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin) (Terfyn Cyflymder Rhan-amser o 20 mya) 2017.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2);
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr ‘lluoedd arbennig’ (‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Cyfyngiad
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, yn gyflymach nag 20 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd o'r enw Heol Newydd a Heol Llanfair yn Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin sy'n ymestyn o bwynt 112 o fetrau i'r gogledd-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â'r A40 hyd at bwynt 156 o fetrau i'r gogledd-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â Heol Cil-y-cwm.
Cymhwyso
4. Nid yw'r cyfyngiad yn erthygl 3 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y'i dangosir gan arwyddion traffig.
Llofnodwyd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru
Dyddiedig 28 Chwefror 2017 |
Nina Ley Pennaeth yr Uned Fusnes, Rheoli'r Rhwydwaith Llywodraeth Cymru |
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 84(1) gan adran 45(2) o Ddeddf Traffig...
To continue reading
Request your trial