Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Ffordd Osgoi Newbridge, Bwrdeistref Sirol Wrecsam) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/173 |
Year | 2020 |
2020Rhif 173 (Cy. 35)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed24Chwefror2020
Yn dod i rym1Mawrth2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A483, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4), a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A483 (Ffordd Osgoi Newbridge, Bwrdeistref Sirol Wrecsam) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 1 Mawrth 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2);
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 19:00 o'r gloch ar 1 Mawrth 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A483 Abertawe i Fanceinion a elwir yn Ffordd Osgoi Newbridge, Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n ymestyn o ganolbwynt Cyffordd 1 (Cyfnewidfa Rhiwabon) hyd at ei chyffordd ag ochr ogleddol Cylchfan Halton;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Gwaharddiadau a Chyfyngiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn erthygl 2.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 50 milltir yr...
To continue reading
Request your trial