Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Man i'r Gogledd o Bont ar Ddyfi i Fan i'r Gogledd o'r B4404 Cyffordd Llanwrin, Gwynedd) (Gwaharddiadau Dros Dro, Cyfyngiadau Cyflymder a Dim Goddiweddyd) 2017

JurisdictionEngland & Wales
CitationWSI 2017/182
Year2017

2017Rhif 182 (Cy. 54)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Man i'r Gogledd o Bont ar Ddyfi i Fan i'r Gogledd o'r B4404 Cyffordd Llanwrin, Gwynedd) (Gwaharddiadau Dros Dro, Cyfyngiadau Cyflymder a Dim Goddiweddyd) 2017

Gwnaed15Chwefror2017

Yn dod i rym27Chwefror2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Abergwaun – Bangor (yr A487) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a'i wahardd ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Chwefror 2017. Ei enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Man i'r Gogledd o Bont ar Ddyfi i Fan i'r Gogledd o'r B4404 Cyffordd Llanwrin, Gwynedd) (Gwaharddiadau Dros Dro, Cyfyngiadau Cyflymder a Dim Goddiweddyd) 2017.

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr ‘cerbyd esempt’(‘exempted vehicle’) yw

(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges y fyddin neu'r llu awyr, ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—

(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu

(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;

ystyr ‘cyfnod y gwaith’(‘works period’) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 06:00 o'r gloch ar 27 Chwefror 2017 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr ‘y darn o'r gefnffordd’(‘the length of the trunk road’) yw'r darn o gefnffordd yr A487 yn Sir Gwynedd sy'n ymestyn o ochr ogleddol Pont ar Ddyfi hyd at bwynt 370 o fetrau i'r gogledd o'r B4404 Cyffordd Llanwrin ger Machynlleth;

ystyr ‘lluoedd arbennig’(‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

Cyfyngiadau a...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT