Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Ffwrnais, Ceredigion i fan i'r gogledd o Gyffordd Dyfi, Powys) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2017

JurisdictionEngland & Wales
CitationWSI 2017/176
Year2017

2017Rhif 176 (Cy. 50)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Ffwrnais, Ceredigion i fan i'r gogledd o Gyffordd Dyfi, Powys) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2017

Gwnaed14Chwefror2017

Yn dod i rym20Chwefror2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Abergwaun – Bangor (yr A487) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Chwefror 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Ffwrnais, Ceredigion i fan i'r gogledd o Gyffordd Dyfi, Powys) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2017.

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys, ar gyfer cynnal a chadw yn ystod y gaeaf, gan wasanaethau bws trafnidiaeth gyhoeddus ac mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

ystyr ‘cyfnod y gwaith’ (‘works period’) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 09:00 o'r gloch ar 20 Chwefror 2017 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr ‘y darnau o'r gefnffordd’ (‘the lengths of the trunk road’) yw'r darnau hynny o'r gefnffordd yn siroedd Ceredigion a Phowys a bennir yn yr Atodlenni i'r Gorchymyn hwn.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

Gwaharddiadau

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, fynd ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1.

4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd sy'n 2.5 metr o led neu'n lletach, ac eithrio cerbyd esempt, fynd ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 2.

Cymhwyso

5. Ni fydd y gwaharddiadau yn erthyglau 3 a 4 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

6. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 14 Chwefror 2017

Nina Ley

...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT