Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Llan-non, Ceredigion) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2022
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2022/1 (W1) (Cymru) |
Year | 2022 |
2022 Rhif 1 (Cy. 1)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Llan-non, Ceredigion) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2022
Gwnaed 4 Ionawr 2022
Yn dod i rym 10 Ionawr 2022
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A487, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o’r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn
Cefnffordd yr A487 (Llan-non, Ceredigion)
(Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2022 a daw’r
Gorchymyn hwn i rym ar 10 Ionawr 2022.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw
cyfnodau ysbeidiol sy’n dechrau am 18:00 o’r
gloch ar 10 Ionawr 2022 ac sy’n dod i ben pan
gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob
cyfnod gwaith eu symud ymaith yn barhaol;
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf
Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26) ac
Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o
Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hyn yn arferadwy
bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw
cefnffordd yr A487 Abergwaun i Fangor.
Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru
unrhyw gerbyd ar y darn o’r gefnffordd sy’n ymestyn
o bwynt 150 metr i’r de o ganolbwynt ei chyffordd â
Heol y Môr hyd at bwynt 5 metr i’r de o ganolbwynt ei
chyffordd â Stryd yr Eglwys yn Llan-non, Ceredigion.
Cymhwyso
4. Nid yw’r gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys
ond ar yr adegau hynny ac i’r graddau hynny y bydd
arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod para’r Gorchymyn hwn
5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y
mwyaf.
Llofnodwyd ar ran y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd, yn gweithredu o dan awdurdod y
Gweinidog Newid...
To continue reading
Request your trial