Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Cilfan Eglwys y Santes Fair, Ffordd Mona, Porthaethwy, Ynys Môn) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2018
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2018/686 |
Year | 2018 |
2018 Rhif 686 (Cy. 133)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Cilfan Eglwys y Santes Fair, Ffordd Mona, Porthaethwy, Ynys Môn) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2018
Gwnaed 5Mehefin 2018
Yn dod i rym 7Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A5 Llundain i Gaergybi, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1), 2(1) a (2) a 4(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1) a pharagraff 27(1) o Atodlen 9 iddi, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog Heddlu Gogledd Cymru, yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Cilfan Eglwys y Santes Fair, Ffordd Mona, Porthaethwy, Ynys Môn) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2018 a daw i rym ar 7 Mehefin 2018.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cilfan” (“lay-by”) yw unrhyw ran o'r gefnffordd a fwriedir fel man aros i gerbydau ar un o ymylon y gefnffordd a ffin gyfan neu rannol iddi o farciau ffordd o'r math a welir yn niagram 1010 o Ran 4 o Atodlen 11 i Reoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddydau Cyffredinol 2016(2);
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A5 Llundain i Gaergybi.
Gwahardd a Chyfyngu ar Aros
3. Ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 5, ni chaiff neb beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau o gilfan y gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 1, ar unrhyw ddiwrnod.
4. Ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 5, ni chaiff neb beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau o gilfan y gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 am gyfnod sy'n fwy na 2 awr, gan beidio â dychwelyd o fewn cyfnod o 4 awr, ar unrhyw ddiwrnod.
Esemptiadau
5. Ni fydd dim yn erthyglau 3 na 4 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i beri neu i ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau o gilfan y gefnffordd a bennir yn yr Atodlenni cyhyd ag sy'n angenrheidiol i alluogi:
(a) y cerbyd i gael ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o'r gweithrediadau a ganlyn:
(i) gwaith adeiladu, gwaith diwydiannol neu waith dymchwel;
(ii) symud unrhyw rwystr i draffig;
(iii) cynnal a chadw, gwella neu ailadeiladu'r gefnffordd a/neu'r gilfan; neu
(iv) gosod, codi, addasu neu atgyweirio, yn y darnau hynny o gilfan y gefnffordd, neu mewn tir cyfagos, unrhyw garthffos neu unrhyw brif bibell, unrhyw bibell neu unrhyw gyfarpar ar gyfer cyflenwi nwy, dŵr neu drydan neu unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig fel y'i diffinnir ym mharagraff 5 o Atodlen 3A i Ddeddf...
To continue reading
Request your trial