Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Capel Curig, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2017
Jurisdiction | England & Wales |
Citation | WSI 2017/448 |
Year | 2017 |
2017Rhif 448 (Cy. 95)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Capel Curig, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2017
Gwnaed16Mawrth2017
Yn dod i rym20Mawrth2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Llundain – Caergybi (yr A5) (“y gefnffordd”), drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(1) a (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1) ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog Heddlu Gogledd Cymru, yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Dehongli a Chychwyn
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Mawrth 2017 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Capel Curig, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2017.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2);
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Cyfyngiad
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd modur, ac eithrio cerbyd esempt, yn gyflymach nag 40 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd yng Nghapel Curig ym Mwrdeistref Sirol Conwy sy'n ymestyn o bwynt 422 o fetrau i'r gogledd o ganolbwynt ei chyffordd â'r A4086 hyd at bwynt 1.068 o gilometrau i'r deddwyrain o ganolbwynt y gyffordd honno.
Llofnodwyd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru
Dyddiedig 16 Mawrth 2017 |
Nina Ley Pennaeth yr Uned Fusnes, Rheoli'r Rhwydwaith Llywodraeth Cymru |
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 84(1) gan adran 45(2) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40). Amnewidiwyd adran 84(2) gan baragraff 61 o...
To continue reading
Request your trial