Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Y Gerbytffordd tua'r Gorllewin rhwng Cyffordd 27 (Cyfnewidfa Talardy), Sir Ddinbych a Chyffordd 24 (Cyfnewidfa'r Faenol), Conwy) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/174
Year2020

2020Rhif 174 (Cy. 36)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Y Gerbytffordd tua'r Gorllewin rhwng Cyffordd 27 (Cyfnewidfa Talardy), Sir Ddinbych a Chyffordd 24 (Cyfnewidfa'r Faenol), Conwy) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2020

Gwnaed24Chwefror2020

Yn dod i rym1Mawrth2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A55, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Y Gerbytffordd tua'r Gorllewin rhwng Cyffordd 27 (Cyfnewidfa Talardy), Sir Ddinbych a Chyffordd 24 (Cyfnewidfa'r Faenol), Conwy) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 1 Mawrth 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys a mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 20:00 o'r gloch ar 1 Mawrth 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith;

ystyr “y gefnffordd”(“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A55 Caer i Fangor.

Gwaharddiadau

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, gerdded ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Cymhwyso

6. Ni fydd y gwaharddiadau yn erthyglau 3, 4 a 5 yn gymwys ond ar yr adegau ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

7. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 24 Chwefror 2020

Richard Morgan

Pennaeth Cynllunio, Rheoli Asedau a Safonau

Llywodraeth Cymru

YR ATODLEN

Y darn o brif gerbytffordd tua'r gorllewin y gefnffordd sy'n ymestyn o ffordd ymadael tua'r gorllewin Cyffordd 27 (Cyfnewidfa Talardy), Llanelwy, Sir Ddinbych hyd at...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT