Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/328 (Cymru)

2020 Rhif 328 (Cy. 75)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2020

Gwnaed 20th March 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141(“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn briodol ynghylch drafft o’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Chwefror 2020.

Yn unol ag adran 146(3) o Ddeddf 2014, o fewn cyfnod o 40 niwrnod ni phenderfynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â chymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, a dyroddwyd y cod ar ffurf y drafft.

S-1 Enwi a dehongli

Enwi a dehongli

1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2020.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Chwefror 2020 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 31 Mawrth 2020.

S-2 Y diwrnod penodedig

Y diwrnod penodedig

2. Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 1 Ebrill 2020.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

20 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2020 fel y diwrnod y daw’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i rym (“y Cod”).

Mae’r Cod wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddwyd o dan adran 145(1) a rhoi sylw i unrhyw...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT