Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2001/2018 (Cymru)

2001Rhif 2018 (Cy.139)

PYSGODFEYDD MôR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MôR

Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001

17 Mai 2001

1 Mehefin 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(1) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967( 1), a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.

Diddymu

2. Mae Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) 1986( 2) drwy hyn wedi'i ddiddymu mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 3).

John Marek

Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2001

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) 1986 ("Gorchymyn 1986"), sydd eisoes wedi'i ddiddymu mewn perthynas â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (erthygl 2).

Gwaharddodd Gorchymyn 1986 lanio crafangau crancod yn y Deyrnas Unedig os ydynt wedi'u datod oddi ar grancod bwytadwy (Cancer pagurus) sydd wedi'u dal o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain. Gwnaed darpariaeth gysylltiedig ynddo hefyd ar gyfer gorfodi.

Erbyn hyn, gellir dod o hyd i ddarpariaethau ynghylch cadw crancod bwytadwy a chrafangau sydd wedi'u datod ar fwrdd llongau a'u glanio yn Erthygl 18.4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, t.1) ynghylch cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol ar gyfer diogelu organeddau morol ifanc.

Mae darpariaethau ar gyfer gorfodi'r cyfyngiadau a'r rhwymedigaethau a geir yn y Rheoliad hwnnw wedi'u gwneud yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000 (2000 Rhif 2230 (Cy. 148)) a ddaeth i rym ar 11 Medi 2000.

(1) 1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 19(1), a'i diwygio gan baragraff 38(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) a pharagraff 43(2) a (3) o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).

Diwygiwyd adran 6, o ran ei heffaith, gan adran 33(1) o Ddeddf 1981 a'i diwygio gan O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(6).

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) cafodd y...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT