Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019

JurisdictionWales

2019 Rhif 511 (Cy. 118)

Amaethyddiaeth, Cymru

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019

Gwnaed 6th March 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8th March 2019

Yn dod i rym 1st April 2019

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, yn unol â’i swyddogaethau o dan erthygl 3(2)(b) o Orchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 20161, wedi llunio gorchymyn cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, wedi ymgynghori ar y gorchymyn ac wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r gorchymyn cyflogau amaethyddol drafft yn unol ag adran 4(1)(a) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 20142.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 3, 4(1) a 17 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

1 Rhagarweiniol

RHAN 1

Rhagarweiniol

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.

S-2 Dehongli

Dehongli

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb gweithiwr amaethyddol o’r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—

(a) unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol;

(b) salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu a ddioddefir o ganlyniad i eni plentyn;

(c) anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith;

(d) anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;

(e) amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch; neu

(f) amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo’r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;

ystyr “amser gweithio” (“workingtime”) yw unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio yng ngwasanaeth ei gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgareddau neu ei ddyletswyddau yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac mae’n cynnwys—

(a) unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn derbyn hyfforddiant perthnasol;

(b) unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn teithio rhwng ei gartref a’i le gwaith;

(c) unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg; a

(d) unrhyw gyfnod ychwanegol y mae’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno ei fod i’w drin fel amser gweithio,

ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i’w dehongli yn unol â hyn;

ystyr “ar alwad” (“on-call”) yw trefniant ffurfiol rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr pan fo gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â’i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;

ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifyingdays) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio gan gynnwys diwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—

(a) yn cymryd gwyliau blynyddol;

(b) yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth;

(c) yn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir neu fabwysiadu statudol; neu

(d) ar gyfnod o absenoldeb salwch;

ystyr “goramser” (“overtime”) yw—

(a) mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

(i) yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;

(ii) yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth;

(iii) ar ŵyl gyhoeddus;

(iv) ar ddydd Sul; neu

(v) mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;

(b) mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

(i) yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;

(ii) yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth; neu

(iii) ar ŵyl gyhoeddus;

ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”) yw goramser y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, p’un a oes gwaith i’r gweithiwr amaethyddol ei wneud neu beidio;

ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae’n daladwy—

(a) pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i’w gyflogwr o Dystysgrif Geni’r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy’n enwi’r gweithiwr fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu’r plentyn; a

(b) o dan amgylchiadau pan fo’r ddau riant neu’r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda’r un cyflogwr, i’r ddau weithiwr amaethyddol;

ystyr “gwaith allbwn” (“outputwork”) yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol;

ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw;

ystyr “llety arall” (“otheraccommodation”) yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—

(a) sy’n addas i bobl fyw ynddo;

(b) sy’n ddiogel ac yn ddiddos;

(c) sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig; a

(d) sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 19923fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsoryschoolage” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 19964;

mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;

ystyr “oriau sylfaenol” (“basichours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gwasanaeth neu brentisiaeth gweithiwr amaethyddol;

ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull teithio neu siwrnai ar droed yn cynnwys—

(a) aros wrth fan ymadael i gychwyn siwrnai drwy gyfrwng dull teithio;

(b) aros wrth fan ymadael i siwrnai ailgychwyn naill ai drwy gyfrwng yr un dull teithio neu drwy gyfrwng un arall, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys; ac

(c) aros ar ddiwedd siwrnai i gyflawni dyletswyddau, neu i dderbyn hyfforddiant, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys;

ystyr “tŷ” (“house”) yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract gwasanaeth y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well ac mae’n cynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw.

(2) Yn yr erthygl hon mae’r cyfeiriad at weithwyr amaethyddol a ddechreuodd eu cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 yn cynnwys gweithwyr amaethyddol—

(a)

(a) y mae telerau eu contract wedi bod yn destun unrhyw amrywiad ers hynny; neu

(b)

(b) sydd wedi eu cyflogi gan gyflogwr newydd ers hynny yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 20065.

(3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at gyfnod o gyflogaeth ddi-dor i’w dehongli fel cyfnod o gyflogaeth ddi-dor a gyfrifir yn unol ag adrannau 210 i 219 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19966.

2 Gweithwyr amaethyddol

RHAN 2

Gweithwyr amaethyddol

S-3 Telerau ac amodau cyflogaeth

Telerau ac amodau cyflogaeth

3. Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.

S-4 Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol

Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol

4. Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi fel gweithiwr ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 i 9 neu 10(1) neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 11.

S-5 Gradd 2

Gradd 2

5. Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo—

(i) un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 1;

(ii) un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu

(iii) cymhwyster cyfatebol; neu

(b) y mae’n ofynnol iddo—

(i) gweithio heb oruchwyliaeth;

(ii) gweithio gydag anifeiliaid;

(iii) gweithio â pheiriannau pŵer; neu

(iv) gyrru tractor amaethyddol,

gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 2.

S-6 Gradd 3

Gradd 3

6.—(1) Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi mewn amaethyddiaeth am gyfnod agregedig o 2 flynedd o leiaf yn ystod y 5 mlynedd blaenorol ac—

(a)

(a) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo—

(i) un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 2;

(ii) un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu

(iii) cymhwyster cyfatebol; neu

(b)

(b) sydd wedi ei ddynodi’n arweinydd tîm,

gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 3.

(2) At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.

S-7 Gradd 4

Gradd 4

7. Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a) sy’n darparu...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT