Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

Publication Date:January 01, 2020

2020Rhif 347 (Cy. 78)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

Gwnaed26Mawrth2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru27Mawrth2020

Yn dod i rym1Ebrill2020

CYNNWYS

RHAN 1

Rhagarweiniol

1. Enwi a chychwyn

2. Dehongli

RHAN 2

Gweithwyr amaethyddol

3. Telerau ac amodau cyflogaeth

4. Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol

5. Gradd 2

6. Gradd 3

7. Gradd 4

8. Gradd 5

9. Gradd 6

10. Datblygu Proffesiynol Parhaus

11. Prentisiaid

RHAN 3

Yr isafswm cyflog amaethyddol

12. Cyfraddau tâl isaf

13. Cyfraddau tâl isaf am oramser

14. Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn

15. Lwfans gwrthbwyso llety

16. Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol

17. Costau hyfforddi

RHAN 4

Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

18. Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

19. Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol

20. Cyfnodau absenoldeb salwch

21. Cyfyngiadau ar yr hawl i dâl salwch amaethyddol

22. Pennu swm tâl salwch amaethyddol

23. Tâl salwch amaethyddol i gymryd tâl salwch statudol i ystyriaeth

24. Talu tâl salwch amaethyddol

25. Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod absenoldeb salwch

26. Gordalu tâl salwch amaethyddol

27. Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion

RHAN 5

Yr hawl i gael amser i ffwrdd

28. Seibiannau gorffwys

29. Y flwyddyn gwyliau blynyddol

30. Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio penodedig a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

31. Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

32. Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o'r flwyddyn gwyliau

33. Amseru gwyliau blynyddol

34. Tâl gwyliau

35. Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc

36. Taliad yn lle gwyliau blynyddol

37. Talu tâl gwyliau wrth derfynu cyflogaeth

38. Adennill tâl gwyliau

39. Absenoldeb oherwydd profedigaeth

40. Pennu swm absenoldeb oherwydd profedigaeth

41. Swm tâl absenoldeb oherwydd profedigaeth

42. Absenoldeb di-dâl

43. Dirymu a darpariaeth drosiannol

RHAN 6

Dirymu a darpariaeth drosiannol

ATODLEN 1 – Dyfarniadau a thystysgrifau cymhwysedd gweithwyr Gradd 2

ATODLEN 2 – Dyfarniadau a thystysgrifau cymhwysedd gweithwyr Gradd 3

ATODLEN 3 – Dyfarniadau a thystysgrifau cymhwysedd gweithwyr Gradd 4

ATODLEN 4 – Cyfraddau tâl isaf

ATODLEN 5 – Hawliau gwyliau blynyddol ATODLEN 6 – Taliad yn lle gwyliau blynyddol

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, yn unol â'i swyddogaethau o dan erthygl 3(2)(b) o Orchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016( 1), wedi llunio gorchymyn cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, wedi ymgynghori ar y gorchymyn ac wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo ganddynt.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo'r gorchymyn cyflogau amaethyddol drafft yn unol ag adran 4(1)(a) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014( 2).

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 3, 4(1) a 17 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020 a daw i rym ar 1 Ebrill 2020.

Dehongli

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb gweithiwr amaethyddol o'r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—

(a) unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol;

(b) salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu a ddioddefir o ganlyniad i eni plentyn;

(c) anaf sy'n digwydd i'r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith;

(d) anaf sy'n digwydd i'r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i'w le gwaith;

(e) amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch; neu

(f) amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i'w le gwaith,

ond nid yw'n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo'r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i'w le gwaith;

mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys—

(a) ffermio gwartheg godro;

(b) cynhyrchu unrhyw gynnyrch defnyddiadwy at ddibenion masnach neu fusnes neu unrhyw fenter arall (pa un a wneir hynny i wneud elw ai peidio);

(c) defnyddio tir fel tir pori, gweirglodd neu ddoldir;

(d) defnyddio tir ar gyfer perllannau, tir helyg gwiail neu goetir;

(e) defnyddio tir ar gyfer gerddi marchnad neu blanhigfeydd;

ystyr “amser gweithio” (“working time”) yw unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio yng ngwasanaeth ei gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgareddau neu ei ddyletswyddau yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac mae'n cynnwys—

(a) unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn derbyn hyfforddiant perthnasol;

(b) unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw'n cynnwys amser a dreulir yn teithio rhwng ei gartref a'i le gwaith;

(c) unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â'i gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg; a

(d) unrhyw gyfnod ychwanegol y mae'r cyflogwr a'r gweithiwr amaethyddol yn cytuno ei fod i'w drin fel amser gweithio,

ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i'w dehongli yn unol â hyn;

ystyr “ar alwad” (“on-call”) yw trefniant ffurfiol rhwng y gweithiwr amaethyddol a'i gyflogwr pan fo gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â'i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw bod yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth ac mae “a gyflogir” (“employed”) a “cyflogwr” (“employer”) i'w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “cynnyrch defnyddiadwy” (“consumable produce”) yw cynnyrch a dyfir i'w fwyta ac i'w yfed neu i'w ddefnyddio fel arall ar ôl iddo adael y tir lle cafodd ei dyfu;

ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) yw diwrnodau pan fyddai'n ofynnol fel arfer i'r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio gan gynnwys diwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—

(a) yn cymryd gwyliau blynyddol;

(b) yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth;

(c) yn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir neu fabwysiadu statudol; neu

(d) ar gyfnod o absenoldeb salwch;

ystyr “goramser” (“overtime”) yw—

(a) mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw'n oramser gwarantedig y mae'r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

(i) yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;

(ii) yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth;

(iii) ar ŵyl gyhoeddus;

(iv) ar ddydd Sul; neu

(v) mewn unrhyw gyfnod sy'n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai'r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;

(b) mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw'n oramser gwarantedig y mae'r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

(i) yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;

(ii) yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth; neu

(iii) ar ŵyl gyhoeddus;

ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”) yw goramser y mae'n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, pa un a oes gwaith i'r gweithiwr amaethyddol ei wneud ai peidio;

ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i'w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae'n daladwy—

(a) pan fo'r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i'w gyflogwr o Dystysgrif Geni'r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy'n enwi'r gweithiwr fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu'r plentyn; a

(b) o dan amgylchiadau pan fo'r ddau riant neu'r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda'r un cyflogwr, i'r ddau weithiwr amaethyddol;

ystyr “gwaith allbwn” (“output work”) yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol;

ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw;

ystyr “gweithiwr amaethyddol” (“agricultural worker”) yw person a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, pa un a yw'r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei wneud yng Nghymru ai peidio;

mae i'r “isafswm cyflog cenedlaethol” (“the national minimum wage”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10;

ystyr “llety arall” (“other accommodation”) yw unrhyw lety byw heblaw ty—

(a) sy'n addas i bobl fyw ynddo;

(b) sy'n ddiogel ac yn ddiddos;

(c) sy'n darparu gwely i'w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig; a

(d) sy'n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992( 3) fel pe bai'r llety'n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddo;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996( 4);

mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;

ystyr “oriau sylfaenol” (“basic hours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gwasanaeth neu brentisiaeth gweithiwr amaethyddol;

ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull...

To continue reading

Request your trial