Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2002/3053 (Cymru)

2002Rhif 3053 (Cy.288)

CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002

10 Rhagfyr 2002

1 Ionawr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 20(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999( 1), ac ar ôl gwneud unrhyw ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol -

Enw a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 a daw i rym ar 1 Ionawr 2003.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -

ystyr "y Cynulliad" ("the Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

dylid dehongli "etholaeth Cynulliad" ("Assembly constituency") a "rhanbarth etholiadol Cynulliad" ("Assembly electoral region") yn unol ag adran 2(2) o, ac Atodlen 1 i, Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 2),

ystyr "etholiad cyffredin" ("ordinary election") yw cynnal etholiadau etholaeth ac etholiadau rhanbarthol ar gyfer dychwelyd pob aelod Cynulliad,

ystyr "etholiad Cynulliad" ("Assembly election") yw etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol,

ystyr "etholiad etholaeth" ("constituency election") yw etholiad i ddychwelyd aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Cynulliad,

ystyr "etholiad rhanbarthol" ("regional election") yw etholiad i ddychwelyd aelodau Cynulliad ar gyfer rhanbarth etholaethol Cynulliad,

ystyr "Gorchymyn 1999" ("the 1999 Order") yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, ac

ystyr "swyddog canlyniadau etholaeth" ("constituency returning officer") yw person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad etholaeth,

ystyr "swyddog canlyniadau rhanbarthol" ("regional returning officer") yw person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad rhanbarthol, ac

mae unrhyw gyfeiriad at gofrestr etholwyr yn gyfeiriad at y gofrestr (neu gofrestrau) etholwyr a ddefnyddir mewn etholiad Cynulliad ac at y gofrestr (neu gofrestrau) fel y cawsant eu cyhoeddi am y tro cyntaf.

Manylion at ddibenion erthygl 20 o Orchymyn 1999

3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion erthygl 20(1)(a) o Orchymyn 1999, nodir trwy hyn y gwasanaethau neu dreuliau canlynol ar gyfer, neu mewn perthynas, ag etholiad Cynulliad -

(a) gwasanaethau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 1(1) a 2(1) o'r Atodlen,(b) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), a 6(1) o'r Atodlen, ac(c) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 8 i 19 o'r Atodlen.

(2) Pan gynhelir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad etholiad rhanbarthol nas ymleddir (p'un ai mewn etholiad cyffredin ai peidio) ni chaiff y fanyleb o dan baragraff (1) effaith mewn perthynas â -

(a) gwasanaethau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 1(1) o'r Atodlen, a(b) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1) a 7(1) o'r Atodlen,

mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno yn yr etholiad rhanbarthol.

(3) Mae paragraffau (4) i (6) o'r erthygl hon yn pennu'r uchafsymiau y gellir eu hadennill at ddibenion erthygl 20(2) o Orchymyn 1999 mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau a bennwyd yn Rhannau I a II o'r Atodlen.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn etholiad Cynulliad a ymleddir pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill a nodwyd yn yr Atodlen mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau a bennwyd yn Rhannau I a II o'r Atodlen fel yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau hynny.

(5) Ond pan geir mewn etholiad cyffredin mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio ar gyfer etholiad etholaeth ac ar gyfer etholiad rhanbarthol bydd unrhyw uchafswm y gellir ei adennill a bennwyd yn y Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â'r ddau etholiad mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno pan (ar wahân i'r paragraff hwn) y byddai fel arall yn cael effaith mewn perthynas â phob etholiad o'r fath.

(6) Pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn etholiad Cynulliad nas ymleddir, sef -

(a) £424.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth mewn perthynas â'r gwasanaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen,(b) £85.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â'r gwasanaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen,(c) £1,047.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth mewn perthynas â'r treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen, ac(ch) £210.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â'r treuliau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen.

Diddymu

5. Diddymir drwy hyn Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Costau Swyddogion...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT