Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2022/12 (W6) (Cymru) |
2022 Rhif 12 (Cy. 6) (C. 1)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022
Gwnaed 6th January 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84(2), (3) a (4) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 20211, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 11 Ionawr 2022
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 11 Ionawr 2022—
(a) adran 56(1) o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno, a
(b) adran 57(1) o’r Ddeddf at ddibenion dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran honno.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022—
(a) adran 56 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, a
(b) adran 57 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Ionawr 2022
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn erthygl 2 yn dod i rym ar 11 Ionawr 2022 ond dim ond at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 56(1) o’r Ddeddf ac at ddibenion dyroddi cyfarwyddyd o dan adran 57(1) o’r Ddeddf.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod adrannau 56 a 57 yn dod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym ar 1 Medi 2022.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adrannau 1 i 5 |
29 Medi 2021 |
O.S. 2021/1069 (Cy. 252)(C. 61) |
Adrannau 6 a 7 (yn rhannol) |
29 Medi 2021 |
O.S. 2021/1069 (Cy. 252)(C. 61) |
Adran 8 (yn rhannol) |
23 Tachwedd 2021 |
O.S. 2021/1069 (Cy. 252)(C. 61) |
To continue reading
Request your trial