Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/1844 (Cymru)

2003 Rhif 1844 (Cy.196)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003

16 Gorffennaf 2003

18 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954(1) ac a freiniwyd ynddo bellach(2), ar ôl ymgynghori â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol ac â'r personau hynny y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn cynrychioli'r buddiannau amaethyddol, y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003, mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru a daw i rym ar 18 Gorffennaf 2003.

Diwygio Deddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954

2. Ym mharagraff 6 o Atodlen 1 (Gweithrediadau a Eithrir) i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 yn lle'r geiriau "in Wales, 4 weeks" rhoddir "in Wales, 8 days"(3).

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D.Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 (1954 p.46) yn ei chymhwysiad i Gymru drwy ostwng yr oedran na cheir ysbaddu moch wedi'r oedran hwnnw heb anesthetydd o 4 wythnos i 7 diwrnod er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC (OJ Rhif L 316, 1.12.2001 t. 36). Ceir yr amodau sy'n gymwys i gadw moch yn Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001, fel y'u diwygiwyd.


(1) 1954 p. 46.
(2) Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
(3) Diwygiwyd paragraff 6 ynghylch Lloegr gan Orchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) (Diwygio) (Rhif 2) (Lloegr) 2003. (O.S. 2003/1328).
(4) 1998 p.38.

English version

ISBN 0 11090762 0

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT