Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/1774 (Cymru)

2003Rhif 1774 (Cy.191)

BWYD, CYMRU

Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003

15 Gorffennaf 2003

31 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003; daw i rym ar 31 Gorffennaf 2003 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -

mae i "Cymru" yr ystyr a ddarperir ar gyfer "Wales" gan adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 2);

mae i "dyfroedd mewnol" yr ystyr a roddir i "internal waters" at ddibenion Erthygl 8(1) o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr;

ystyr "y Ddeddf ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "llong neu awyren esempt" ("exempt ship or aircraft") yw unrhyw long neu awyren freintrydd sofran neu unrhyw long o Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig sy'n arfer yr hawl i dramwyo'n ddiniwed drwy'r rhan honno o'r môr tiriogaethol o fewn Cymru ystyr "llong neu awyren freintrydd sofran" ("sovereign immune ship or aircraft") yw unrhyw

long neu awyren sy'n perthyn i Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig na chaiff ei defnyddio at ddibenion masnachol;

ystyr "llong sy'n mynd tuag adref" ("home-going ship") yw llong sy'n ymwneud yn unig â'r canlynol -

(a) mynd a dod ar ddyfroedd mewnol, neu(b) teithiau nad ydynt yn hwy na diwrnod, sy'n dechrau ac yn gorffen ym Mhrydain Fawr ac nad ydynt yn golygu galw yn unlle y tu allan i Brydain Fawr;

mae i'r "môr tiriogaethol" yr ystyr a roddir i "territorial sea" at ddibenion Deddf Môr Tiriogaethol 1987( 3);

ystyr "y prif ddarpariaethau Rheoli Hylendid a Thymheredd" ("the principal Hygiene and Temperature Control provisions") yw -

(a) Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995( 4) ac eithrio rheoliad 4A o Atodlen 1A i'r Rheoliadau hynny (trwyddedau i siopau cigyddion);(b) Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Rheoli Tymheredd) 1995( 5) ac eithrio rheoliadau 4 - 9 a 12 a Rhan III o'r Rheoliadau hynny.

mae i "tramwyo'n ddiniwed" yr ystyr a roddir i "innocent passage" at ddibenion Rhan II Adran 3A o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr.

Mae llongau ac awyrennau yn fangreoedd at ddibenion...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT