Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/973 (Cymru) |
2003Rhif 973 (Cy.132)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003
1 Ebrill 2003
1 Mehefin 2003
O ran ardaloedd cofrestru yng Nghymru, gan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn nad yw bellach yn briodol bod penodi, talu a gweinyddu swyddogion rhenti yn un o swyddogaethau awdurdodau lleol( 1);
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 64B o Ddeddf Rhenti 1977( 2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Mehefin 2003 .
(2) Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "corff perthnasol" ("relevant body") yw'r corff a oedd yn cyflogi'r cyflogai perthnasol yn union cyn y dyddiad trosglwyddo;
ystyr "cyflogai perthnasol" ("relevant employee") yw person y mae ei gontract cyflogaeth i'w drosglwyddo gan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Rhenti 1977( 3);
ystyr "y dyddiad trosglwyddo" ("the transfer date") yw 1 Mehefin 2003; ac
ystyr "Rheoliadau 1981" ("the 1981 Regulations") yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981( 4).
Diddymu cynlluniau o dan adran 63 o Ddeddf Rhenti 1977 yng Nghymru
2. - (1) Bydd unrhyw gynllun wedi'i wneud o dan adran 63 o'r Ddeddf, mewn perthynas â Chymru, a oedd yn bod yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn peidio â bod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
(2) Rhaid peidio â gwneud cynllun o dan adran 63 o'r Ddeddf ar gyfer unrhyw ardal gofrestru yng Nghymru.
Trosglwyddo Staff
3. Bydd contract cyflogaeth rhwng y corff perthnasol ac
(a) pob swyddog rhenti; a(b) pob aelod o staff gweinyddol yn y corff perthnasol a gyflogir yn narpariaeth gwasanaeth y swyddogion rhenti,a gyflogid yn barhaus gan y corff perthnasol yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, ac eithrio unrhyw staff a wrthwynebodd drosglwyddo eu contractau cyflogaeth yn unol â Rheoliad 5(4A) o Reoliadau 1981, yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol.
4. Heb ragfarn i erthygl 3:
(a) yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol bob hawl, pwer, dyletswydd a rhwymedigaeth y corff perthnasol o dan gontract cyflogaeth y mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu mewn cysylltiad ag ef, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, o'r dyddiad trosglwyddo;(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, caniateir i unrhyw beth a wneid cyn y dyddiad trosglwyddo, gan, i neu mewn perthynas â chyflogai perthnasol ynglyn â chontract cyflogaeth barhau i gael ei wneud, ar ôl y dyddiad hwnnw gan, i neu mewn perthynas â'r person hwnnw;(c) yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, bernir bod unrhyw beth a wneid cyn y dyddiad trosglwyddo gan, i neu mewn perthynas â chorff perthnasol ynglyn â chontract cyflogaeth neu gyflogai perthnasol, wedi'i...To continue reading
Request your trial