Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011

JurisdictionWales
CitationSI 2011/2011

2011Rhif 2011 (Cy.221) (C.74)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011

9 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011( 1).

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Awst 2011

2. Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 31 Awst 2011-

(a) adrannau 1 i 3 (arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr);(b) adran 141 (y Panel);(c) adran 142 (swyddogaethau sy'n ymwneud a thaliadau i aelodau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(ch) adran 143 (swyddogaethau sy'n ymwneud a phensiynau aelodau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(d) adran 144 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.);(dd) adran 145 (adroddiadau blynyddol) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(e) adran 146 (yr adroddiad blynyddol cyntaf);(f) adran 148 (ymgynghori ar adroddiadau drafft) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(ff) adran 149 (cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(g) adran 150 (gofynion gweinyddol mewn adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(ng) adran 151 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(h) adran 152 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(i) adran 154 (aelodau sy'n dymuno ymwrthod a'u hawl i gael taliadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(j) is-adrannau (2), (3) a (4) o adran 155 (peidio a gwneud taliadau) i'r graddau y maent yn ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(l) adran 156 (cyfarwyddiadau i gydymffurfio a gofynion) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(ll) adran 157 (canllawiau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;(m) adran 158 (y pwer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y Panel);(n) adran 161 (canllawiau ynghylch cydlafurio rhwng awdurdodau gwella Cymreig);(o) adrannau 162 i 171 (cyfuno);(p) Atodlen 2 (y Panel).

Carl Sargeant

Y...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT