Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010

JurisdictionEngland & Wales
CitationSI 2010/2136

2010Rhif 2136 (Cy.192)

TRAFNIDIAETH A GWEITHFEYDD, CYMRU

Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010

25 Awst 2010

27 Awst 2010

Gwnaed cais i Weinidogion Cymru yn unol a Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Geisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006( 1) am Orchymyn o dan adrannau 1 a 5 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992( 2) ("Deddf 1992").

Cafodd gwrthwynebiadau i'r cais hwnnw eu tynnu'n ôl.

Mae Gweinidogion Cymru, o fod wedi ystyried adroddiad y person a ofynnwyd ganddynt i ddarparu arfarniad o'r cais, wedi penderfynu gwneud Gorchymyn yn rhoi eu heffaith i'r cynigion sy'n ffurfio'r cais gydag addasiadau nad ydynt ym marn Gweinidogion Cymru yn gwneud unrhyw newid sylweddol i'r cynigion.

Cyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru yn y London Gazette ar 24 Awst 2010.

Yn unol a hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 1, 2, 5, 7, 8, 11 i 13 a 15 i 17 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:-

RHAN 1

RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.-(1)Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010 a daw i rym ar 27 Awst 2010.

(2)Caniateir enwi Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn Llangollen a Chorwen 1984( 3) a'r Gorchymyn hwn gyda'i gilydd fel Gorchmynion Rheilffordd Llangollen a Chorwen 1984 a 2010.

Dehongli

2.-(1)Yn y Gorchymyn hwn-

mae "adeilad" ("building") yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiledd, neu unrhyw ran o adeilad, strwythur neu adeiledd;

mae i'r ymadrodd "awdurdod strydoedd" yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd "street authority" yn Rhan 3 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991( 4);

ystyr "y CCC" ("the PLC") yw Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus Rheilffordd Llangollen plc, cwmni a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a'i rif cofrestredig yw 2716476 a chyda'i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf y Rheilffordd, Stryd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN;

mae "cyfeiriad" ("address") yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion trosglwyddiad electronig;

mae "cynnal a chadw" ("maintain") yn cynnwys arolygu, trwsio, addasu, altro, symud ymaith, ail adeiladu ac amnewid, a rhaid dehongli "gwaith cynnal a chadw" ("maintenance") yn unol a hynny;

mae "cwrs dwr" ("watercourse") yn cynnwys pob afon, ffrwd, ffos, traen, camlas, toriad, cwlfert, arglawdd, llifddor, carthffos a llwybrau y mae dwr yn llifo drwyddynt, ac eithrio carthffosydd neu draeniau cyhoeddus;

ystyr "Deddf 1961" ("the 1961 Act") yw Deddf Iawndal Tir 1961( 5);

ystyr "Deddf 1990" ("the 1990 Act") yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990( 6);

ystyr "y gwaith rhestredig" ("the scheduled work") yw'r gwaith a bennir yn Atodlen 1 (Gwaith rhestredig) neu unrhyw ran ohono;

ystyr "gweithfeydd awdurdodedig" ("authorised works") yw'r gwaith rhestredig ac unrhyw weithfeydd eraill a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr "yr hen reilffordd" ("the former railway") yw'r rheilffordd neu'r hen reilffordd a awdurdodwyd gan Ddeddf Rheilffordd Llangollen a Chorwen 1860( 7) a pha faint bynnag o unrhyw reilffordd neu hen reilffordd arall ag sydd wedi'i lleoli o fewn terfynau'r Gorchymyn ynghyd a pha faint bynnag o bob gweithfeydd sy'n ymwneud a'r cyfryw reilffordd neu hen reilffordd ag sydd wedi'u lleoli felly;

mae i "perchennog", mewn perthynas a thir, yr un ystyr ag sydd i "owner" yn Neddf Caffael Tir 1981( 8);

ystyr "planiau'r gweithfeydd" ("the works plans") yw'r planiau yr ardystiodd Gweinidogion Cymru eu bod yn blaniau'r gweithfeydd at ddibenion y Gorchymyn hwn.

mae i'r ymadroddion "priffordd" ac "awdurdod priffyrdd" yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion "highway" a "highway authority" yn Neddf y Priffyrdd 1980( 9);

ystyr "y rheilffordd bresennol" ("the existing railway") yw'r rheilffordd a awdurdodir gan Orchymyn Rheilffordd Ysgafn Llangollen a Chorwen 1984 ynghyd a'r holl diroedd a'r gweithfeydd sy'n ymwneud a'r rheilffordd honno;

ystyr "y rheilffordd estyniadol" ("the extension railway") yw'r rheilffordd yr awdurdodir ei hadeiladu gan y Gorchymyn hwn ynghyd a'r holl diroedd a'r gweithfeydd sy'n ymwneud a'r rheilffordd honno a chyn cwblhau unrhyw ran o'r rheilffordd estyniadol honno bydd yr ymadrodd hwnnw yn cynnwys safle'r rhan honno;

ystyr "y rheilffyrdd" ("the railways") yw'r rheilffordd bresennol a'r rheilffordd estyniadol, neu'r naill neu'r llall ohonynt;

mae "stryd" ("street") yn cynnwys rhan o stryd;

ystyr "terfynau'r Gorchymyn" ("the Order limits") yw unrhyw derfynau gwyriad a'r terfynau pellach;

ystyr "terfynau'r gwyriad" ("the limits of deviation") yw terfynau'r gwyriad ar gyfer y gwaith rhestredig a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd;

ystyr "y terfynau pellach" ("the further limits")

yw'r terfynau a ddangosir gan y llinellau sydd ar blaniau'r gweithfeydd ac wedi'u marcio "terfynau'r tir sydd i'w ddefnyddio" ("limits of land to be used");

ystyr "y trawsluniau" ("the sections") yw'r trawsluniau yr ardystiodd Gweinidogion Cymru eu bod yn drawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr "trosglwyddiad electronig ("electronic transmission") yw cyfathrebiad a drosglwyddir-

(a) drwy rwydwaith gyfathrebu electronig; neu(b) drwy ddull arall ond yn parhau ar ffurf electronig;

ystyr "yr Ymddiriedolaeth" ("the Trust") yw Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, sef elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a'i rif cofrestredig yw 3040336 (a ymgorfforwyd yn wreiddiol fel Cymdeithas Reilffordd Llangollen Cyfyngedig o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965( 10)) a chyda'i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf y Rheilffordd, Stryd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN; ac

ystyr "yr ymgymerwr" ("the undertaker") yw'r Ymddiriedolaeth ac yn dilyn unrhyw werthiant, prydles neu is-brydles o dan erthygl 17 (trosglwyddo rheilffyrdd gan yr ymgymerwr) bydd yr ymadrodd hwn yn golygu neu'n cynnwys y trosglwyddai o fewn ystyr yr erthygl honno.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir neu arno, neu oddi tano, neu yn y gofod awyr uwchben ei arwynebedd.

(3)Brasgywir yn unig yw pob pellter, cyfeiriad a hyd a roddir mewn disgrifiad o'r gwaith rhestredig neu mewn unrhyw ddisgrifiad o bwerau neu o diroedd a chymerir y bydd pellteroedd rhwng pwyntiau ar waith rhestredig wedi'u mesur ar hyd y gwaith rhestredig.

Ymgorffori Deddf Cydgrynhoi Cymalau Rheilffyrdd 1845

3.-(1)Caiff y darpariaethau a ganlyn o Deddf Cydgrynhoi Ymgorffori Cymalau Rheilffyrdd 1845( 11) eu hymgorffori yn y Gorchymyn hwn-

adran 68 (gwaith hwyluso gan y cwmni);

adran 73 (dim gwaith hwyluso i fod yn ofynnol ar ôl y cyfnod rhagnodedig);

adran 75 (peidio a chau giatiau);

adrannau 103 a 104 (gwrthod gadael y goets ar ben siwrnai);

adran 105 (cludo nwyddau peryglus ar y rheilffordd);

adran 145 (adennill cosbau); ac

adran 154 (tramgwyddwyr crwydrol).

(2)Yn y darpariaethau hynny, fel y'u hymgorfforir yn y Gorchymyn hwn-

ystyr "y cwmni" ("the company") yw'r ymgymerwr;

ystyr "y Ddeddf neilltuol" ("the special Act") yw'r Gorchymyn hwn;

mae "nwyddau" ("goods") yn cynnwys unrhyw beth sy'n cael ei gludo ar y rheilffordd yr awdurdodir ei hadeiladu gan y Gorchymyn hwn;

ystyr "rhagnodedig" ("prescribed") mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth yw wedi ei ragnodi gan y Gorchymyn hwn at ddibenion y ddarpariaeth honno;

ystyr "y rheilffordd" ("the railway") yw'r rheilffordd estyniadol ac unrhyw weithfeydd eraill a awdurdodir; ac

mae "toll" ("toll") yn cynnwys unrhyw dreth neu arwystl neu daliad arall sy'n daladwy o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddeddfiad arall ar gyfer unrhyw deithiwr neu unrhyw nwyddau a gludir ar unrhyw reilffordd yr awdurdodir ei hadeiladu gan y Gorchymyn hwn.

RHAN 2

DARPARIAETHAU AM WEITHFEYDD

Prif bwerau

Y pwer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd

4.-(1)Caiff yr ymgymerwr adeiladu a chynnal a chadw'r gwaith rhestredig.

(2)Yn ddarostyngedig i erthygl 6 (y pwer i wyro), ni chaniateir adeiladu'r gwaith rhestredig ond yn unig ar y llinellau neu yn y sefyllfaoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd ac yn unol a'r lefelau a ddangosir ar y trawsluniau hynny.

Y pwer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd ategol

5.-(1)Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr wneud a chynnal a chadw pa rai bynnag o'r gweithfeydd a ganlyn ag a ddichon fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adeiladu'r gwaith rhestredig, neu at ddibenion ategol i hynny, sef-

(a) gweithfeydd i altro safle cyfarpar, gan gynnwys prif bibellau, carthffosydd, traeniau a cheblau;(b) gweithfeydd i altro llwybr cwrs dwr, neu i ymyrryd mewn modd arall ag ef;(c) tirweddu a gweithfeydd eraill i liniaru unrhyw effeithiau andwyol a gaiff adeiladu, cynnal a chadw neu weithio'r gwaith rhestredig;(ch) gweithfeydd er buddiant neu er diogelwch mangreoedd y mae'r gwaith rhestredig yn effeithio arnynt.

(2)Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr wneud y fath weithfeydd eraill (o ba natur bynnag) ag a ddichon fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adeiladu'r gwaith rhestredig, neu at ddibenion ategol i hynny.

(3)Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr yn benodol o fewn y tir a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 2 (gweithfeydd ychwanegol) wneud a chynnal a chadw unrhyw weithfeydd a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen gyda'r holl weithfeydd a'r cyfleusterau angenrheidiol sy'n gysylltiedig a'r gweithfeydd hynny.

(4)Nid yw paragraffau (1) i (3) yn awdurdodi gwneud gweithfeydd neu waith cynnal a chadw y tu allan i derfynau'r gwyriad ond yn unig os yw'r cyfryw weithfeydd yn cael eu gwneud o fewn y terfynau pellach.

Y pwer i wyro

6.Wrth adeiladu neu gynnal a chadw'r gwaith rhestredig, caiff yr ymgymerwr-

(a) gwyro'n llorweddol oddi wrth y llinellau neu'r sefyllfaoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd hyd eithaf terfynau'r gwyriad ar gyfer y gwaith hwnnw; a(b) gwyro'n fertigol oddi wrth y lefelau a ddangosir ar y trawsluniau-(i) i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 3 metr tuag i fyny;...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT