Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/483 (Cymru) |
2003 Rhif 483 (Cy.69)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003
3 Mawrth 2003
4 Mawrth 2003
TREFN YR ERTHYGLAU
1. |
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben |
2. |
Dehongli |
3. |
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid |
4. |
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dy |
5. |
Grwpiau meddiannaeth unigol |
6. |
Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau |
7. |
Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr |
8. |
Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan drwydded gyffredinol |
9. |
Trwyddedau penodol |
10. |
Trwyddedau cyffredinol |
11. |
Copïau o drwyddedau |
12. |
Cydymffurfio â thrwyddedau ac yn y blaen |
13. |
Glanhau a diheintio |
14. |
Newid meddiannaeth safleoedd |
15. |
Gorfodi |
16. |
Dirymu |
ATODLEN 1 |
Symud o safleoedd a ganateir yn ystod y cyfnod segur |
ATODLEN 2 |
Symud i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8(1) a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981( 1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben
1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, mae'n dod i rym ar 4 Mawrth a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "anifeiliaid" ("animals") yw gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, moch a defaid;
ystyr "canolfan gasglu" ("collecting centre") yw safle a ddefnyddir ar gyfer derbyn, yn y tymor byr, anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw'n cynnwys marchnad neu rywle arall a ddefnyddir ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid oni fwriedir i'r holl anifeiliaid sydd yno gael eu cigydda yn syth);
ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros anifeiliaid, hyd yn oed dros dro ac, at ddibenion erthygl 8(2)(a) mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n cludo'r anifeiliaid;
ystyr "cyfnod segur" ("standstill period") yw cyfnod pan na cheir symud anifeiliaid oddi ar safle oherwydd darpariaethau erthygl 3(1)(b);
mae i "gr
p meddiannaeth unigol" ("sole occupancy group") yr ystyr a briodolir iddo gan erthygl 5;
mae i "lladd-dy" yr ystyr a roddir i "slaughterhouse" yn Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995( 2);
ystyr "milfeddyg" ("veterinary surgeon") yw cymrawd neu aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon;
mae "safle" ("premises") yn cynnwys tir ag adeiladau neu dir hebddynt;
mae "tir" ("land") yn cynnwys tir comin neu dir heb ei amgáu; ac
yn achos geifr mae "trinaieth filfeddygol" ("veterinary treatment") yn cynnwys casglu semen.
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid
3. - (1) Mae gwaharddiad ar symud anifail o unrhyw safle -
(a) oni symudir yr anifail o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd; a(b) ond nid os na symudwyd defaid, geifr neu wartheg i'r safle hwnnw yn ystod y 6 diwrnod blaenorol, ac os na symudwyd moch i'r safle hwnnw yn ystod yr 20 diwrnod blaenorol ("y cyfnod segur").(2) Er gwaethaf paragraff (1), ceir symud anifeiliaid o'r safle yn ystod y cyfnod segur -
(a) os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 1, neu(b) os dyroddwyd trwydded sy'n datgymhwyso'r cyfnod segur gan arolygydd milfeddygol.(3) Ni chaiff y cyfnod segur ei sbarduno gan symud anifail i safle os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 2.
(4) Nid yw'r gofyniad am drwydded ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i unrhyw symud a awdurdodir gan drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro ) (Cymru) (Rhif 2) 2002( 3) (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).
(5) Nid yw gofynion paragraff (1) yn gymwys i symud -
(a) sydd wedi'i drwyddedu gan drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983( 4), neu(b) i unrhyw sa drwyddedwyd o dan Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 neu oddi yno ( 5).
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dy ac oddi yno
4. Gwaherddir i unrhyw berson -
(a) symud unrhyw anifail i ladd-dy ac eithrio at ddibenion ei gigydda o fewn 48 awr iddo gyrraedd yno; neu(b) derbyn unrhyw anifail o ladd-dy oni wneir hynny, yn achos unrhyw anifail heblaw mochyn, o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.Grwpiau meddiannaeth unigol
5. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw'r naill neu'r llall wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.
Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau
6. - (1) Rhaid i unrhyw drwydded, caniatâd, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, yn ddarostyngedig i amodau, a gellir ei amrywio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd -
(a) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos trwydded, caniatâd neu awdurdodiad a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd o unrhyw fath;(b) gan arolygydd milfeddygol, yn achos trwydded neu ganiatâd a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o arolygwyr eraill yr Ysgrifennydd Gwladol;(c) gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol (ac eithrio arolygydd milfeddygol), yn achos trwydded a ddyroddwyd gan unrhyw arolygydd o'r fath; neu(ch) gan un o arolygwyr awdurdod lleol, yn achos trwydded a ddyroddwyd gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol hwnnw.(2) Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2) mae'n rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr
7. Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan y drwydded gyffredinol
8. - (1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi hysbysiad yn gwahardd -
(a) symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu(b) unrhyw berson a bennir yn yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu oddi yno.(2) Ni chaiff hysbysiad ei gyhoeddi o dan baragraff (1) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn -
(a) na chydymffurfiwyd â darpariaethau'r Gorchymyn hwn neu'r drwydded gyffredinol mewn perthynas ag anifeiliaid a symudwyd i'r safle dan sylw neu oddi yno, neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill, os y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ceidwad yr anifeiliaid hynny neu os bu'n geidwad yr anifeiliaid hynny ar unrhyw adeg, a(b) bod angen cyflwyno hysbysiad i atal y posibilrwydd y bydd clefydau yn lledaenu.(3) Bydd hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) yn cael ei gyflwyno i feddiannydd pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac...
To continue reading
Request your trial