Gorchymyn Tatws o Wlad Pwyl (Hysbysu) (Cymru) 2004

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2004/2697 (Cymru)
Year2004

2004Rhif 2697 (Cy.236)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Tatws o Wlad Pwyl (Hysbysu) (Cymru) 2004

19 Hydref 2004

20 Hydref 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2, 3(1), (2) a (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967( 1) , fel y'u darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddol (Darpariaethau Amrywiol) 1972( 2), sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tatws o Wlad Pwyl (Hysbysu) (Cymru) 2004, mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 20 Hydref 2004.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn -

ystyr "arolygydd" ("inspector") yw unrhyw berson a awdurdodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y prif Orchymyn;

ystyr "y prif Orchymyn" ("the principal Order") yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993( 3);

ystyr "taten" ("potato") yw unrhyw gloronen Solanum tuberosum L. neu unrhyw had gwirioneddol neu blanhigyn arall ohono neu unrhyw rywogaeth arall o'r genws Solanum L. sy'n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw ohono;

ystyr "taten hadyd" ("seed potato") yw unrhyw daten sydd wedi'i bwriadu i'w phlannu; ac

ystyr "tatws o wlad Pwyl" ("Polish potatoes") yw tatws a dyfwyd yng ngwlad Pwyl yn ystod 2003 neu ers hynny.

Hysbysu am fewnforion

3. - (1) Ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, fewnforio tatws i Gymru y mae'r person hwnnw'n gwybod eu bod, neu y mae ganddo sail resymol dros amau eu bod, yn datws o wlad Pwyl, oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad yr oedd yn bwriadu cyflwyno'r tatws i mewn i Gymru, ynghylch ei fwriad i fewnforio'r tatws, ac ynghylch:

(a) amser, dyddiad a dull arfaethedig eu cyflwyno;(b) y pwynt mynediad arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru;(c) y defnydd arfaethedig ar y tatws;(ch) yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan arfaethedig y tatws;(d) rhywogaeth y tatws;(dd) y maint o datws; ac(e) Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.

(2) I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd datws o wlad Pwyl i Gymru, wrth gynnal busnes, ar ôl 30 Ebrill 2004 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 15 Tachwedd 2004 fan bellaf ynghylch -

(a) y dyddiad y mewnforiwyd y tatws;(b) y pwynt mynediad lle doed â hwy i mewn i Gymru;(c) y defnydd arfaethedig ar y tatws;(ch) yn achos tatws hadyd neu datws sydd...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT