Gorchymyn Traffordd yr M4 (Cyffordd 23, Rogiet i Ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) (Rhif 2) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/443

2020Rhif 443 (Cy. 101)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Traffordd yr M4 (Cyffordd 23, Rogiet i Ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) (Rhif 2) 2020

Gwnaed9Ebrill2020

Yn dod i rym14Ebrill2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Draffordd yr M4, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o'r draffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y draffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Traffordd yr M4 (Cyffordd 23, Rogiet i Ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) (Rhif 2) 2020 a daw i rym ar 14 Ebrill 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y draffordd” (“the motorway”) yw'r darn o gerbytffordd tua'r dwyrain Traffordd yr M4 sy'n ymestyn o bigyn trwyniad y ffordd ymadael tua'r dwyrain ar yr M48 wrth Gyffordd 23, Rogiet hyd at ffin Cymru/Lloegr.

Gwaharddiad

3. Ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos, ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd ar y draffordd.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

4. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Dirymu

5. Mae Gorchymyn Traffordd yr M4 (Cyffordd 23, Rogiet i Ffin Cymru/Lloegr, Sir Fynwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020( 2) wedi ei ddirymu.

Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 9 Ebrill 2020

Richard Morgan

Pennaeth Cynllunio, Rheoli Asedau a Safonau

Llywodraeth Cymru

(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26), ac Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o Ddeddf...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT