Restrictions and leasehold properties (PG19A)
Published date | 16 October 2014 |
Date | 13 January 2025 |
Mae’r rhan fwyaf o brydlesi’n cynnwys cyfamod yn erbyn aseinio neu is-brydlesu eiddo heb ganiatâd y landlord. Bydd cofnod yn cael ei wneud yng nghofrestr yr eiddo os yw’r brydles yn cynnwys cyfamod o’r fath, er mwyn sicrhau bod y prynwr yn ymwybodol ohono. Gall landlord fforffedu’r brydles os yw’r cyfamod yn cael ei dorri, os yw’r toriad hwnnw’n ysgogi cymal fforffedu yn y brydles.
Weithiau gwneir cais i gofnodi cyfyngiad sy’n gofyn am ganiatâd landlord neu asiant rheoli cyn y gellir cofrestru gwarediad. Mae cyfyngiadau sy’n gofyn am ganiatâd neu dystysgrif landlord penodedig neu asiant rheoli’n aml yn creu problemau difrifol i ystod o bartïon pan fo’r landlord neu’r asiant rheoli’n newid – i brynwr teitl prydles sy’n ddarostyngedig i’r cyfyngiad, i’r perchennog cofrestredig sydd am werthu’r eiddo hwnnw ac i unrhyw gyn landlord neu asiant a enwir yn y cyfyngiad.
Yn y cyfarwyddyd hwn, cyfeiriwn at y person sydd â budd cyfyngiad fel y ‘cyfyngwr’.
2. Gwneud cais am gyfyngiad2.1 A oes angen cyfyngiad o gwblDylech ystyried a oes angen cyfyngiad o gwbl, os mai bwriad y cyfyngiad yw sicrhau y gweithredir cyfamodau yn y brydles, neu a yw’n ddigon i ddibynnu ar y darpariaethau yn Neddf Landlordiaid a Thenantiaid (Cyfamodau) 1995 (neu athrawiaeth preifatrwydd ystad ar gyfer prydlesi cynharach). Mae’r Ddeddf yn gwneud cyfamodau sy’n cyfeirio at destun y brydles yn orfodadwy yn erbyn pwy bynnag yw deilydd cyfredol y brydles.
2.2 Pwyntiau i’w hystyried2.2.1 Prydleswr a enwir fel cyfyngwrOs yw cyfyngiad yn galw am ganiatâd neu dystysgrif landlord a enwir, bydd anawsterau amlwg yn codi wrth gydymffurfio â thelerau’r cyfyngiad (ac felly wrth gofrestru unrhyw warediad o deitl prydlesol) os yw’r teitl rifersiwn yn cael ei drosglwyddo. Ni fydd y landlord newydd yn gallu gwneud cais i newid neu i ddiwygio cyfyngiad er mwyn i’w enw ef ddisodli’r landlord blaenorol. Hefyd, bydd perchennog y teitl prydlesol cofrestredig (neu berson y trosglwyddwyd y teitl hwnnw iddo) yn gallu gwneud cais i ddileu’r cyfyngiad ar y sail nad oes gan y cyfyngwr a enwir fudd yn yr eiddo bellach – gweler Landlord wedi newid
Er mwyn osgoi’r anawsterau a allai fel arall godi pe bai’r cyfyngiad yn gofyn am ganiatâd neu dystysgrif landlord a enwir a bod y landlord wedi newid, rydym yn awgrymu’n gryf pan ystyrir bod cyfyngiad yn angenrheidiol, yr ystyrir cais i gynnwys cyfyngiad ar y ffurf a nodir yn Cyfyngiadau safonol
2.2.2 Y cwmni rheoli’n gyfyngwrPrin iawn yw’r achlysuron pan fo cyfyngiadau o blaid cwmnïau rheoli yn briodol. Os yw’r cwmni rheoli’n newid, gall y tenant wneud cais i ddileu’r cyfyngiad; ni fydd unrhyw gyfamodau gan ac o blaid cwmni rheoli yn y brydles yn trosglwyddo i gwmni rheoli newydd, felly bydd y cyfyngiad yn mynd yn afraid. Beth bynnag, os cynhwysir cyfyngiad o blaid landlord corfforaethol (neu berchennog corfforaethol y teitl rifersiwn), gall asiant rheoli sydd wedi’i awdurdodi i wneud hynny roi caniatâd neu dystysgrif ar ran y landlord o dan reol 91B o Reolau Cofrestru Tir 2003.
2.3 Pwyntiau drafftio2.3.1 Cyfyngiadau safonolOs ydych yn penderfynu bod cyfyngiad yn angenrheidiol, rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn ystyried gwneud cais am ffurf o gyfyngiad na fydd yn ofynnol cael caniatâd neu dystysgrif landlord neu asiant a enwir, er mwyn i chi osgoi’r anawsterau a allai godi fel arall pe bai’r landlord neu’r asiant yn newid. Mae’r cyfyngiad safonol Ffurf PP wedi’i lunio’n benodol ar gyfer teitlau prydlesol cofrestredig a gellir ei gwblhau er mwyn osgoi gorfod cael tystysgrif asiant neu brydleswr a enwir. Gellid cwblhau cyfyngiad Ffurf PP er mwyn darparu fel a ganlyn:
CYFYNGIAD: Nid oes [trosglwyddiad neu brydles] o’r ystad gofrestredig [ ] gan berchennog yr [ystad gofrestredig[ [neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn] i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan berchennog am y tro yr ystad gofrestredig sy’n ffurfio’r rifersiwn uniongyrchol a ddisgwylir ar adeg terfynu’r brydles gofrestredig, neu gan drawsgludwr, y cydymffurfiwyd â darpariaethau [cymal 1.7] [y brydles ddyddiedig 14 Awst 2005].
(Mae’r cromfachau sgwâr yn dynodi ble gellir mewnosod testun yn ôl yr amgylchiadau.)
Fodd bynnag, os oes rheswm penodol pam nad ydych yn barod i ganiatáu i drawsgludwr ddarparu’r dystysgrif, ac mae gennych gydsyniad y tenant i gofnodi’r cyfyngiad, dylech ystyried cyfyngiad Ffurf M neu Ffurf O.
Gellid cwblhau cyfyngiad safonol Ffurf M ar gyfer er mwyn darparu fel a ganlyn:
CYFYNGIAD: Nid oes [trosglwyddiad neu brydles] o’r ystad gofrestredig [ ] gan berchennog yr ystad gofrestredig [neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn] i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan berchennog am y tro yr ystad a gofrestrwyd dan deitl rhif [rhif teitl y teitl rifersiwn] y cydymffurfiwyd â darpariaethau [cymal 1.7 y brydles ddyddiedig 14 Awst 2005].
Bydd cyfyngiad ar y ffurf hon yn cyfyngu’r unigolyn sy’n gallu darparu’r dystysgrif i berchennog y teitl rifersiwn penodedig.
Os oes angen y cyfyngiad i ddarparu caniatâd, yn hytrach na thystysgrif, gellid cwblhau cyfyngiad safonol Ffurf O er mwyn darparu ar gyfer y canlynol:
CYFYNGIAD: Nid oes [trosglwyddiad neu brydles] o’r ystad gofrestredig [ ] gan berchennog yr ystad gofrestredig [ ] [neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan berchennog am y tro yr ystad a gofrestrwyd dan deitl rhif [rhif teitl y teitl rifersiwn].
Byddwn yn derbyn cais am gynnwys cyfyngiad gan y landlord yn seiliedig ar delerau’r brydles. Felly, oni bai eich bod yn cyflwyno tystiolaeth gyda’r cais am gynnwys cyfyngiad i ddangos bod y tenant yn cydsynio i gynnwys y cyfyngiad ar y ffurf honno, fel rheol byddwn yn gallu cynnwys y cyfyngiad os gallwch ddangos bod cynnwys y ffurf o gyfyngiad y gwnaed cais amdano yn...
Get this document and AI-powered insights with a free trial of vLex and Vincent AI
Get Started for FreeStart Your 3-day Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant
-
Access comprehensive legal content with no limitations across vLex's unparalleled global legal database
-
Build stronger arguments with verified citations and CERT citator that tracks case history and precedential strength
-
Transform your legal research from hours to minutes with Vincent AI's intelligent search and analysis capabilities
-
Elevate your practice by focusing your expertise where it matters most while Vincent handles the heavy lifting

Start Your 3-day Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant