Rentcharges (PG56)
| Published date | 13 October 2002 |
| Date | 24 July 2024 |
Swm o arian mae’n rhaid ei dalu’n flynyddol fel arfer, ac sy’n arwystl dros dir, yw rhent-dâl. Fel arfer bydd, rhent-dâl yn cael ei greu wrth drawsgludo neu drosglwyddo. Mae’r parti sy’n gwerthu’r tir yn neilltuo rhent mae’n rhaid ei dalu iddynt a’u holynwyr mewn teitl bob blwyddyn ac sy’n arwystl dros y tir a werthwyd.
Er 22 Awst 1977, mae creu’r rhan fwyaf o fathau o rent-daliadau wedi ei wahardd. Gelwir y prif ddosbarth o rent-dâl sydd wedi ei eithrio o’r gwaharddiad cyffredinol yn rhent-dâl ystad (adran 2(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977).
Gall hwn fod yn rhent-dâl sydd naill ai’n:
-
swm enwol at ddiben gwneud cyfamodau i’w cyflawni gan y tirfeddiannwr y gellir ei orfodi gan berchennog y rhent yn erbyn perchennog presennol y tir
-
swm rhesymol i dalu neu gyfrannu at y gost sy’n codi i berchennog y rhent o gyflawni’r cyfamodau ar gyfer darparu gwasanaethau, cynnal a chadw neu atgyweirio ac yswiriant a thaliadau eraill er budd y tir a effeithir gan y rhent-dâl
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi sylw i’r canlynol:
- sut i wneud cais i gofrestru rhent-daliadau ystad wedi eu creu o dir cofrestredig, ac unrhyw hawliau mynediad cysylltiedig
- dosrannu rhent-daliadau wedi eu nodi a rhent-daliadau cofrestredig (trwy statud a thrwy weithred)
- amrywio telerau rhent-dâl neu hawliau mynediad cysylltiedig
- terfynu rhent-daliadau
Defnyddir y termau canlynol yn y cyfarwyddyd hwn:
‘tir wedi ei arwystlo’ – yr ystad rydd-ddaliol neu brydlesol sy’n ddarostyngedig i’r rhent-dâl
‘tirfeddiannwr’ – perchennog cofrestredig y tir sy’n ddarostyngedig i’r rhent-dâl
‘perchennog y rhent’ – perchennog y rhent-dâl
‘rhent-dâl ystad’ – rhent-dâl a ganiateir o dan adran 2(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977
2. Sut i wneud cais i gofrestru rhent-dâl wedi ei greu o dir cofrestredigLle mae rhent-dâl ystad wedi ei greu o ystad gofrestredig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, rhaid iddo gael ei gofrestru er mwyn bod yn effeithiol yn unol â’r gyfraith (adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Lle mae trosglwyddiad o dir cofrestredig neu brydles cymalau penodedig sy’n effeithio ar dir cofrestredig yn cynnwys creu rhent-dâl ystad (ac ar yr amod, yn achos prydles cymalau penodedig, y cyfeirir at y rhent-dâl yng nghymal LR12) byddwn yn nodi’r rhent-dâl yn awtomatig yng nghofrestr teitl cofrestredig y tir wedi ei arwystlo (rheol 72(4), 72A(2) neu 72C(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, er mwyn bodloni’r gofynion cofrestru o dan adran 27 a pharagraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, bydd angen gwneud cais penodol i gofrestru’r rhent-dâl bob amser.
Lle mae’r rhent-dâl wedi ei greu gan weithred ar wahân, ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod yn awtomatig ar gyfer y rhent-dâl oni bai bod cais i gofrestru neu nodi’r rhent-dâl yn cael ei wneud.
Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dylid gwneud ceisiadau ar wahân i gofrestru’r gwarediad o’r tir a’r rhent-dâl ar ffurflen AP1.
Mae ffi o £40 (£20 lle cyflwynir y cais trwy ddulliau electronig) yn daladwy o dan Erthygl 12 o’r gorchymyn ffi cyfredol ar gyfer cofrestru rhent-dâl wedi ei greu o ystad gofrestredig, ar gyfer pob rhent-dâl.
Mae rhent-dâl ystad yn fudd y gellir ei warchod gan chwiliad swyddogol â blaenoriaeth. Dylid gwneud cais ar ffurflen OS1 neu drwy ein gwasanaethau electronig yn ôl yr arfer. Os yw’r rhent-dâl yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig yn unig bydd angen cynllun, a dylid gwneud cais ar ffurflen OS2. Dylid defnyddio’r opsiwn ‘prynu’.
2.1 Creu’r rhent-dâlO 22 Awst 1977, dim ond rhent-daliadau a ganiateir gan Ddeddf Rhent-daliadau 1977 all gael eu creu. Rhaid creu rhent-dâl cyfreithiol trwy gyfrwng gweithred (adran 52(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925) mewn meddiant a naill ai’n fythol-barhaus neu am gyfnod o flynyddoedd absoliwt. Yn achos rhent-daliadau wedi eu creu o dir cofrestredig, mae gan berchennog cofrestredig neu berson sydd â hawl i gael ei gofrestru fel perchennog y pŵer i wneud gwarediad o unrhyw fath a ganiateir gan y gyfraith gyffredin.
Er nad oes geiriad statudol i greu rhent-dâl o deitl cofrestredig byddwn yn derbyn cymalau hanfodol tebyg i’r canlynol:
Enghraifft o roi rhent-dâlMae’r [Trosglwyddai] yn rhoi o’r Eiddo i’r [Cwmni Rheoli] rent-dâl bythol-barhaus wedi ei gyfrifo ac yn daladwy fel y nodir yn atodlen 1.
Mae rhent-dâl bythol-barhaus wedi ei neilltuo i’r [Trosglwyddwr] wedi ei gyfrifo ac yn daladwy fel y nodir yn atodlen 1.
Os yw gweithred sy’n creu rhent-dâl yn cynnwys datganiad neu gytundeb sy’n nodi nad yw’r rhent-dâl wedi ei fwriadu i fod yn rhent-dâl at ddibenion Deddf Rhent-daliadau 1977 byddwn yn dychwelyd y weithred i’w diwygio.
Gan fod Deddf Rhent-daliadau 1977 yn cynnwys gwaharddiad cyffredinol yn erbyn creu rhent-daliadau newydd, ac eithrio, ymhlith pethau eraill, rhent-daliadau ystad, os nad yw’r rhent-dâl sydd wedi ei greu yn y weithred yn rhent-dâl ystad, bydd yn ddi-rym o dan adran 2 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977.
Byddwn yn gofyn i’r weithred gael ei diwygio i ddileu unrhyw ansicrwydd ynghylch a yw rhent-dâl ystad wedi cael ei greu neu beidio.
2.2 Sut i lenwi ffurflen AP1Panel 2: rhowch rif teitl y tir wedi ei arwystlo bob amser. Byddwn yn nodi’r rhent-dâl yng nghofrestr y tir wedi ei arwystlo (os nad yw wedi ei nodi eisoes) ac yn cofrestru’r rhent-dâl ar wahân hefyd o dan ei rif teitl ei hun.
Panel 4: nodwch natur y cais fel “Cofrestru rhent-dâl”.
Panel 5: cyflwynwch gopi o’r trosglwyddiad neu’r brydles a greodd y rhent-dâl. Fel arall, os yw’r trosglwyddiad neu’r brydles eisoes wedi ei chofrestru rhowch “Gweler copi o’r trosglwyddiad/prydles dyddiedig [rhowch y dyddiad] wedi ei gofrestru o dan y teitl [rhowch y teitl]”.
Panel 6: rhowch fanylion y person sydd i’w gofrestru fel perchennog y rhent-dâl (perchennog y rhent). Os nad hwn yw’r person gwreiddiol y rhoddwyd neu y neilltuwyd y rhent-dâl iddo, rhaid darparu tystiolaeth o ddisgyniad teitl i’r rhent-dâl a’i rhestru ym mhanel 5.
Panel 9: sicrhewch eich bod yn rhoi cyfeiriad ar gyfer gohebu ar gyfer perchennog y rhent.
Panel 12: nid oes angen cadarnhau hunaniaeth ar gyfer cais i gofrestru rhent-dâl yn unig. Os gwneir y cais yr un pryd â chais i gofrestru’r trosglwyddiad neu’r brydles y mae’r rhent-dâl wedi ei roi neu ei neilltuo ohono, bydd angen cadarnhau hunaniaeth mewn perthynas â’r partïon i’r trosglwyddiad neu’r brydles – gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.
2.3 Y dogfennau gofynnolRhaid cyflwyno’r weithred a greodd y rhent-dâl (neu gopi ardystiedig) oni bai ei bod wedi ei chofrestru eisoes (er enghraifft ar ystad dai newydd lle mae’r trosglwyddiad o’r llain tŷ sy’n rhoi rhent-dâl eisoes wedi ei gofrestru).
Os nad yw’r cais i gofrestru’r person y rhoddwyd y rhent-dâl iddo yn wreiddiol, rhaid darparu tystiolaeth o ddisgyniad teitl i’r person sydd i’w gofrestru fel perchennog y rhent-dâl.
2.4 Rhent-dâl yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig neu dir wedi ei drosglwyddoLle mae rhent-dâl yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig neu ran o dir sy’n cael ei drosglwyddo yn unig, rhaid darparu cynllun sy’n dangos stent y tir sydd wedi ei gynnwys yn y rhent-dâl a’i lofnodi gan y gwaredwr (rheol 213 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
2.5 Cofrestru rhent-dâl yn Nhŷ’r CwmnïauLle mae rhent-dâl yn cael ei greu ac mae’r tirfeddiannwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, gellir cofrestru’r rhent-dâl yn Nhŷ’r Cwmnïau.
2.6 Pwyntiau eraillYn achos datblygiad cysylltwch â ni i drafod a yw’r rhent-daliadau i’w cofrestru o dan un teitl cyfunol neu ar wahân.
Gellir defnyddio un AP1 i gofrestru nifer o rent-daliadau ond mae ffi ar wahân yn daladwy ar gyfer cofrestru pob rhent-dâl, p’un ai ydynt yn cael eu cyflwyno i’w cofrestru gyda’i gilydd neu ar wahân.
Os yw’r cais i gofrestru rhent-dâl newydd a’i ychwanegu at deitl cofrestredig sy’n bodoli eisoes, dylech gynnwys “Cyfuno â [rhowch y rhif teitl]” ym mhanel 4 AP1.
2.7 Gweithredu gan Gofrestrfa Tir EFPan gawn gais, byddwn yn rhoi rhif teitl newydd i gofrestru’r rhent-dâl.
Mewn llawer o achosion, bydd y rhent-dâl wedi ei nodi eisoes ar y tir wedi ei arwystlo (o dan reol 72(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003); byddwn yn diweddaru’r cofnod o’r rhent-dâl yn y gofrestr ar y tir wedi ei arwystlo i nodi rhif teitl y rhent-dâl. Os nad yw wedi ei nodi eisoes, gallwn roi rhybudd i’r tirfeddiannwr o’n bwriad i wneud cofnod mewn perthynas â’r rhent-dâl.
Fel rheol, byddwn yn gwneud cofnod tebyg i’r canlynol yn y gofrestr ar gyfer y tir wedi ei arwystlo:
Mae Trosglwyddiad o’r tir yn y teitl hwn dyddiedig 1 Ionawr 2019 a wnaed rhwng (1) Adeiladwr Tai Cyfyngedig a (2) Rhywun Arall yn cynnwys rhoi rhent-dâl fel y crybwyllir ynddo. Mae’r Weithred ddywededig hefyd yn cynnwys cyfamodau.
NODYN 1: Rhent-dâl wedi ei gofrestru o dan rif teitl AB987654*
¬NODYN 2: Copi wedi ei ffeilio.
*Os yw’r rhent-dâl wedi ei gofrestru.
Ar deitl y rhent-dâl byddwn yn gwneud cofnod yn nodi manylion y weithred a greodd y rhent-dâl. Gan nad yw Cofrestrfa Tir EF mewn sefyllfa i benderfynu a yw rhent-dâl yn un a ganiateir o dan Ddeddf Rhent-daliadau 1977 byddwn hefyd yn gwneud cofnod tebyg i’r canlynol:
Mae’r teitl i’r rhent-dâl hwn wedi ei gofrestru...
Get this document and AI-powered insights with a free trial of vLex and Vincent AI
Get Started for FreeStart Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant
-
Access comprehensive legal content with no limitations across vLex's unparalleled global legal database
-
Build stronger arguments with verified citations and CERT citator that tracks case history and precedential strength
-
Transform your legal research from hours to minutes with Vincent AI's intelligent search and analysis capabilities
-
Elevate your practice by focusing your expertise where it matters most while Vincent handles the heavy lifting
Start Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant