Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/542 (Cymru) |
2003Rhif 542 (Cy.76)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003
5 Mawrth 2003
31 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 15, 15A a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998( 1), ac Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diddymu
2. Diddymir rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000( 3) a rheoliad 28 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001( 4)).
Dehongli
3. Heblaw pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y rheoliadau hyn -
mae i "asiant" yr ystyr a roddir i "agent" yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
ystyr "athro neu athrawes gofrestredig" ("registered teacher") yw -
(a) person sydd ar hyn o bryd wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
(b) person a gofrestrwyd o dan adran 3 o Ddeddf 1998 ar adeg unrhyw ymddygiad neu dramgwydd honedig ar ei ran; neu
(c) person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
mae i "cyflogwr perthnasol" yr ystyr a roddir i "relevant employer" yn adran 142 o Ddeddf Addysg 2002( 5);
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr "gwasanaethau" ("services") yw gwasanaethau a ddarparwyd i gyflogwr perthnasol yng Nghymru ac mae'n cynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwirfoddol;
mae i "gweithiwr" yr ystyr a roddir i "worker" yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
ystyr "mater perthnasol" ("relevant issue") yw mater sy'n codi pan fydd amgylchiadau'r achos, gan gynnwys achlysuron o ymddygiad heblaw'r hwnnw sydd o dan sylw, o'r fath eu bod yn codi mater sy'n ymwneud â diogelwch a lles plant;
ystyr "Pwyllgor" ("Committee") yw Pwyllgor Ymchwilio, Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol neu Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol a sefydlwyd o dan Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001;
ystyr "Pwyllgor Ymchwilio" ("Investigating Committee") yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001; ac
ystyr "trefniadau" yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yng nghyswllt y gair "arrangements" yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998 i weithiwr gyflawni gwaith yng Nghymru.
Adroddiadau gan gyflogwr
4. Pan -
(a) fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm -
(i) nad yw'r person yn gymwys i weithio â phlant;
(ii) sy'n ymwneud â chamymddygiad y person; neu
(iii) sy'n ymwneud â iechyd y person os yw mater perthnasol yn codi; neu
(b) y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm o'r fath pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,
rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a...
To continue reading
Request your trial