Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôlraddedig) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/918 (W206) (Cymru)

2020 Rhif 918 (Cy. 206)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed 28th August 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 28th August 2020

Yn dod i rym 1st September 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2020.

S-2 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 20193wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 10(1) (myfyrwyr cymwys – eithriadau), yn eithriad 10—

(a)

(a) ar ôl “nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—” dechreuer llinell newydd a mewnosod y pennawd “Achos 1”;

(b)

(b) ar ddiwedd is-baragraff (c), yn lle’r atalnod llawn rhodder “; neu”;

(c)

(c) ar ddiwedd eithriad 10 mewnosoder—

Achos 2

(a)

(a) bo diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2020; a

(b)

(b) na fo P yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”

(3) Yn Atodlen 1 (dehongli), ym mharagraff 3(1), yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);”.

(4) Yn Atodlen 4 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn Nhabl 3, yn y lle priodol mewnosoder—

““coronafeirws”

Atodlen 1, paragraff 3(1)”

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

Am 9.20 a.m. ar 28 Awst 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac maent yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).

Mae Rheoliadau 2019 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 10(1) o Reoliadau 2019 (myfyrwyr cymwys – eithriadau) i ddileu’r...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT