Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2002/122 (Cymru)
Year2002

2002Rhif 122 (Cy.16)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002

25 Ionawr 2002

1 Chwefror 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 52(1), (3) a (4) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998( 1) ac adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993( 2) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 3) :

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2002.

(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

mae i "anghenion addysgol arbennig" a "darpariaeth addysgol arbennig" yr ystyron a roddir i "special educational needs" a "special educational provision" gan adran 312(2) a (4) o Ddeddf Addysg 1996( 4) );

ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol;

mae i "blwyddyn ariannol" yr ystyr a roddir i "financial year" gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996( 5);

dehonglir "cyfnod allweddol" ("key stage") yn unol ag adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996;

mae i "cyfran o'r gyllideb" yr ystyr a roddir i "budget share" gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;

ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr "datganiad" ("statement") mewn perthynas â disgybl ag anghenion addysgol arbennig yw datganiad a wneir o dan adran 324(1) o Ddeddf Addysg 1996;

ystyr "datganiad cyllideb" ("budget statement") yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(1) o Ddeddf 1998;

ystyr "ffactor" ("factor") yw un o'r ffactorau neu'r meini prawf a gymerir i ystyriaeth yn y fformwla ddyrannu;

ystyr "fformwla ddyrannu" ("allocation formula") yw fformwla'r awdurdod o dan reoliad 10 o Reoliadau 1999 a ddefnyddir i benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ysgolion;

ystyr "ISB" yw cyllideb ysgolion unigol awdurdod o fewn ystyr adran 46(2) o Ddeddf 1998;

ystyr "perthnasol" ("relevant") mewn perthynas ag "oedran" ("age"), "grw p oedran" ("age group") a "grwp blwyddyn" ("year group") yw oedran, grw p oedran neu grw p blwyddyn sy'n cael eu trin ar wahân yn y fformwla ddyrannu at ddibenion penderfynu'r rhan honno o gyfran pob ysgol o'r gyllideb sydd i'w phenderfynu drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig;

ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999( 6);

ystyr "rhif AALl" ("LEA number") yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r awdurdod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;

ystyr "rhif cyfeirnod swyddogol" ("official reference number") yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r ysgol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;

ystyr "rhif fersiwn" ("version number") yw rhif sy'n gwahaniaethu ffurflen benodol a gyflwynir gan yr awdurdod oddi wrth fersiynau cynharach o'r ffurflen a gyflwynwyd ganddynt;

ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol a gynhelir, sef ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig; ac

mae i "ysgol ganol" yr ystyr a roddir i "middle school" gan adran 5(3) o Ddeddf Addysg 1996( 7).

(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -

(a) nid yw cyfeiriadau at ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd yn cynnwys ysgolion arbennig; a(b) mae cyfeiriadau at nifer neu niferoedd o ddisgyblion cofrestredig mewn un neu fwy o ysgolion yn gyfeiriadau at y nifer neu'r niferoedd o'r cyfryw ddisgyblion y mae'n ofynnol eu defnyddio o dan y fformwla ddyrannu ar gyfer penderfyniad cychwynnol cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb neu gyfrannau yr ysgolion hynny o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn gan anwybyddu unrhyw bwysoliad yn unol â pharagraff (7) neu unrhyw addasiad o dan baragraff (8) o reoliad 11 o Reoliadau 1999.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu'r Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Diddymu a darpariaethau trosiannol

3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, diddymir Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 1999( 8).

(2) Er hynny, bydd y Rheoliadau hynny'n parhau yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1999, 1 Ebrill 2000 ac 1 Ebrill 2001.

Ffurf ragnodedig datganiadau cyllideb a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys ynddynt

4. - (1) Rhaid paratoi datganiad cyllideb mewn tair rhan.

(2) Rhaid cwblhau Rhan 1 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 1 a rhaid cynnwys yr wybodaeth, mewn perthynas â gwariant cynlluniedig yr awdurdod ar gyfer pob ysgol am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi, a bennir yn y nodiadau yn y ffurflen honno;

(3) Rhaid cwblhau Rhan 2 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2 a rhaid cynnwys yr wybodaeth mewn perthynas â fformwla ddyrannu'r awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi a bennir yn y nodiadau yn y ffurflen honno; a

(4) Gellir cwblhau Rhan 3 yn Gymraeg neu'n Saesneg (neu'r ddwy) a rhaid cynnwys yr wybodaeth mewn perthynas â chyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi a bennir yn Atodlen 3.

(5) Rhaid i faint y ffont a ddefnyddir beidio â bod yn llai na 7pt.

(6) Rhaid i'r wybodaeth ganlynol ymddangos ar frig bob Rhan o ddatganiad cyllideb:

(a) Y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi;(b) Enw'r awdurdod;(c) Rhif AALl yr awdurdod;(ch) Y rhif fersiwn neu'r rhif "1" os hon yw'r fersiwn gyntaf; a(d) Y dyddiad y cafodd y ffurflen ei chwblhau.

(7) At ddibenion cwblhau datganiadau cyllideb, mae ysgol ganol i'w thrin fel ysgol gynradd neu ysgol uwchradd, yn ôl fel y digwydd, yn ôl sut y mae'r ysgol i'w thrin at ddibenion penderfynu ei chyfran o'r gyllideb o dan fformwla ddyrannu'r awdurdod.

(8) Os oes person yn cyflawni swyddogaethau ar ran awdurdod, rhaid i'r awdurdod gynnwys gwybodaeth yn Rhannau 1 i 3 o'r datganiad cyllideb fel pe bai gwariant gan y person hwnnw wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny yn wariant gan yr awdurdod.

Rhagnodi dull ac amser cyhoeddi datganiadau cyllideb

5. - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 6, at ddibenion adran 52(3)(b) o Ddeddf 1998, rhaid i bob datganiad cyllideb gael ei gyhoeddi -

(a) drwy roi dau gopi i'r Cynulliad Cenedlaethol; a(b) drwy drefnu bod copi ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl ym mhob un o swyddfeydd addysg yr awdurdod.

6. - (1) Rhaid hefyd roi pob datganiad cyllideb i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir i'r diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2) Rhaid i unrhyw iaith gyfrifiadurol neu feddalwedd a ddefnyddir i gyflwyno tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.

7. - (1) Rhaid cyhoeddi datganiad cyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi.

(2) Ni ellir adolygu datganiad cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi heblaw i gywiro gwallau yn y datganiad fel y cyhoeddwyd ef yn flaenorol.

(3) Bydd datganiad cyllideb diwygiedig yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5, 6, 7(2) ac 8.

(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT