Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2002/679 (Cymru)

2002Rhif 679 (Cy.76)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002

12 Mawrth 2002

1 Ebrill 2002

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996( 1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "awdurdod addysg" ("education authority") yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996( 3);

ystyr "grant" ("grant") yw grant sy'n daladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;

ystyr "gwariant a gymeradwywyd" ("approved expenditure") yw unrhyw wariant sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 3;

ystyr "gwariant a ragnodwyd" ("prescribed expenditure") yw gwariant gan awdurdod addysg at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn yr Atodlen neu mewn cysylltiad â hwy;

ystyr "penderfynu" ("determine") yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig;

mae i "safle ysgol" yr ystyr a roddir i "school site" ym mharagraff 2(11) o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998( 4).

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grantiau yn daladwy mewn perthynas â hwy

3. Ni fydd grantiau yn daladwy ond ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol a dim ond i'r graddau y mae'r gwariant hwnnw wedi'i gymeradwyo am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y grantiau

4. Rhaid talu grantiau ar gyfer gwariant a gymeradwywyd ac a dynnwyd ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny o'r math y cyfeirir ato yn yr Atodlen yn ôl cyfradd o 100 y cant o'r gwariant hwnnw a gymeradwywyd.

Amodau talu grantiau

5. - (1) Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT