Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022

JurisdictionWales
CitationWSI 2022/17 (W9) (Cymru)
Year2022

2022 Rhif 17 (Cy. 9)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022

Gwnaed 7th January 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11th January 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (6)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 56 a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 20211, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—

(a)

(a) ar gyfer disgyblion a phlant y darperir addysg feithrin2ar eu cyfer,

(b)

(b) ar gyfer disgyblion mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir,

(c)

(c) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir3,

(d)

(d) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol4o dan Ran 2 o Ddeddf 2021,

(e)

(e) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn uned cyfeirio disgyblion5,

(f)

(f) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion pan fo gan yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb gwricwlwm perthnasol ar gyfer yr uned honno sy’n bodloni gofynion adran 50 o Ddeddf 2021, ac

(g)

(g) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 7 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD6iddynt pan fo gan yr awdurdod lleol gwricwlwm perthnasol sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—

(a)

(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir ac nad ydynt, ar 1 Medi 2022, o fewn paragraff (2)(d),

(b)

(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion ac nad ydynt o fewn paragraff (2)(f),

(c)

(c) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 7 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt ac nad ydynt o fewn paragraff (2)(f),

(d)

(d) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn ysgol a gynhelir,

(e)

(e) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(f)

(f) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 8 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024—

(a)

(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir,

(b)

(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)

(c) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 9 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(5) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025—

(a)

(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir,

(b)

(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)

(c) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 10 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(6) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026—

(a)

(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir,

(b)

(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)

(c) ar gyfer disgyblion a phlant ym mlwyddyn 11 ac y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

S-2 Dehongli

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD” (“non-PRU EOTASnon-PRU EOTAS”) yw addysg a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 19A o Ddeddf 19967ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion ac sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021;

ystyr “addysg feithrin” (“nursery educationnursery education”) yw addysg a ddarperir i blant a disgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—

(a) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu

(b) gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery educationfunded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception yearreception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school yearschool year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculumrelevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Actthe 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19968;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Actthe 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 19969;

mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf 1996;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 199610;

ystyr “person perthnasol” (“relevant personrelevant person”) yw—

(a) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol honno,

(b) mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,

(c) mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a

(d) mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol sy’n trefnu neu’n darparu’r addysg o dan adran 19A o Ddeddf 1996;

mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “tymor ysgol” (“school termschool term”) yw’r dyddiadau y mae tymhorau a gwyliau ysgol i ddechrau a gorffen arnynt;

mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unitpupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;

ystyr “ymarferydd” (“practitionerpractitioner”) yw person sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm perthnasol;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained schoolmaintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery schoolmaintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.

S-3 Gwneud asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol

Gwneud asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol

3.—(1) Rhaid i’r personau a nodir ym mharagraff (2) wneud trefniadau ar gyfer asesu pob disgybl a phlentyn yn barhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol gan ymarferydd yn unol â’r rheoliad hwn.

(2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)

(a) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, pennaeth yr ysgol honno,

(b)

(b) mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, darparwr yr addysg honno,

(c)

(c) mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion honno, a

(d)

(d) mewn perthynas ag addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, yr awdurdod lleol...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT