Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2018

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2018/552 (Cymru)

2018 Rhif 552 (Cy. 94)

ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2018

Gwnaed 30Ebrill 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4Mai 2018

Yn dod i rym 1Tachwedd 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 3, 34 a 35 o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 1, 2, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac unrhyw gorff arall yr ymddengys iddynt ei fod yn cynrychioli'r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2018.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2018.

(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(4).

Diwygio Rheoliadau 2010

2. Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio fel a nodir yn rheoliadau 3 i 5.

Effeithlonrwydd dŵr

3.—(1) Yn lle rheoliad 36 (effeithlonrwydd dŵr anheddau newydd) rhodder—

36.—(1) This regulation applies where a dwelling is—

(a) erected; or

(b) formed by a material change of use of a building within the meaning of regulation 5(a) or (b).

(2) The potential consumption of wholesome water by persons occupying a dwelling to which this regulation applies must not exceed the requirement in paragraph (3).

(3) The requirement referred to in paragraph (2) is—

(a) where a dwelling is erected, 110 litres per person per day; or

(b) where a dwelling is formed by a material change of use of a building within the meaning of regulation 5(a) or (b), 125 litres per person per day,

as measured in either case in accordance with a methodology approved by the Welsh Ministers.”

(2) Yn rheoliad 37 (cyfrifo'r defnydd o ddŵr dihalog) yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Where regulation 36 applies, the person carrying out the work must give the local authority a notice which specifies the potential consumption of wholesome water per person per day in relation to the completed dwelling.”

(3) Yn Atodlen 1 (gofynion sy'n ymwneud â gwaith adeiladu) yn Rhan G (glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac effeithlonrwydd dŵr)—

(a) yn lle pennawd paragraff G2 (effeithlonrwydd dŵr) rhodder “Water efficiency of new dwellings”;

(b) ar ôl paragraff G2 mewnosoder y paragraff a ganlyn—

Water efficiency of new buildings other than dwellings and healthcare buildings

G2A

Reasonable provision must be made in the design and installation of any sanitary convenience(5), washbasin or shower so as to prevent the undue consumption of water.

Requirement G2A applies only to building work that consists of the erection or extension of a building which is not a dwelling or a healthcare building.

“Healthcare building” means—

(a) a hospital;

(b) a building used for the provision of medical services by a registered medical...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT