Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2026
| Jurisdiction | Wales |
| Citation | WSI 2026/31 (Cymru) |
| Year | 2026 |
2026 Rhif 31
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2026
Gwnaed 6th Fe uary 2026
Yn dod i rym 1st April 2026
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1)(a) a 12(1), (3) a (3A)1o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20022ac adrannau 87 a 93(1)(b), (2)(b), (3) a (4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20143, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Rhan 1
CYFFREDINOL
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2026 a deuant i rym ar 1 E ill 2026.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adroddiad darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter’s report”) yw adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 30 o’r Rheoliadau Asiantaethau;
mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” yn adran 2(1) o Ddeddf 2002;
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw—
yn achos dyfarniad ar addasrwydd i fabwysiadu, darpar fabwysiadydd;
yn achos dyfarniad ar ddatgelu, person perthnasol o fewn ystyr rheoliad 13A(7) o’r Rheoliadau Datgelu4;
yn achos dyfarniad ar faethu, person y rhoddwyd hysbysiad iddo at ddibenion rheoliad 8(6)(a) o’r Rheoliadau Maethu;
ystyr “darparwr gwasanaeth maethu” (“fostering service provider”) yw—
darparwr gwasanaeth maethu awdurdod lleol;
darparwr gwasanaeth maethu rheoleiddiedig;
ystyr “darparwr gwasanaeth maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering service provider”) yw’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol;
ystyr “darparwr gwasanaeth maethu rheoleiddiedig” (“regulated fostering service provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016 i ddarparu gwasanaeth maethu;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20165;
ystyr “dyfarniad ar addasrwydd i fabwysiadu” (“adoption suitability determination”) yw dyfarniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);
ystyr “dyfarniad ar ddatgelu” (“disclosure determination”) yw penderfyniad cymhwysol o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 13A o’r Rheoliadau Datgelu;
ystyr “dyfarniad ar faethu” (“fostering determination”) yw dyfarniad cymhwysol o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 4;
ystyr “dyfarniad cymhwysol” (“qualifying determination”) yw dyfarniad a ddisgrifir yn rheoliadau 3 a 4;
ystyr “gwasanaeth maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering service”) yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath;
ystyr “gwasanaeth maethu rheoleiddiedig” (“regulated fostering service”) yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016 i ddarparu gwasanaeth maethu;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru—
yn y gofrestr o weithwyr cymdeithasol yn Lloegr a gynhelir o dan adran 39(1) o Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 20176,
yn y rhan ar gyfer gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr a gynhelir gan Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20167,
yn y rhan ar gyfer gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr a gynhelir gan Gyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban o dan adran 44 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 20018, neu
yn y rhan ar gyfer gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr a gynhelir gan Gyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon o dan adran 3 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 20019;
ystyr “panel” (“panel”) yw panel y mae’n ofynnol gan reoliad 5 i Weinidogion Cymru ei gyfansoddi yn unol â rheoliad 6, 7 neu 8, yn ôl y digwydd;
ystyr “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel y mae’n ofynnol i asiantaeth fabwysiadu ei gyfansoddi yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Asiantaethau;
ystyr “y Rheoliadau Asiantaethau” (“the Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 200510;
ystyr “y Rheoliadau Datgelu” (“the Disclosure Regulations”) yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 200511;
ystyr “y Rheoliadau Maethu” (“the Fostering Regulations”) yw Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 201812;
mae “y rhestr ganolog” (“the central list”) i’w ddehongli yn unol â rheoliad 5;
mae i “rhiant maeth” (“foster parent”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Maethu;
ystyr “sefydliad” (“organisation”) yw asiantaeth fabwysiadu neu ddarparwr gwasanaeth maethu, yn ôl y digwydd.
Dyfarniad cymhwysol — disgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 12(2) o Ddeddf 2002
3. At ddibenion adran 12(2) o Ddeddf 2002, dyfarniad cymhwysol yw—
(a) dyfarniad a wneir gan asiantaeth fabwysiadu—
(i) o dan reoliad 30B(5) o’r Rheoliadau Asiantaethau nad yw’r asiantaeth yn bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn,
(ii) o dan reoliad 30CH(2) o’r Rheoliadau Asiantaethau nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fabwysiadu plentyn yn dilyn adolygiad, neu
(b) penderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o’r Rheoliadau Datgelu.
Dyfarniad cymhwysol — disgrifiadau rhagnodedig at ddibenion adran 93(2)(b) o Ddeddf 2014
4. At ddibenion adran 93(2)(b) o Ddeddf 2014, mae’r disgrifiadau a ganlyn o ddyfarniadau wedi eu rhagnodi—
(a) dyfarniad (ac eithrio penderfyniad a wneir yn unol â rheoliad 7(11) o’r Rheoliadau Maethu) fod y darparwr gwasanaeth maethu yn bwriadu peidio â chymeradwyo person fel rhywun addas i weithredu fel rhiant maeth yn unol â rheoliad 8(6) o’r Rheoliadau Maethu, a
(b) dyfarniad (ac eithrio penderfyniad a wneir yn unol â rheoliad 7(11) o’r Rheoliadau Maethu) fod y darparwr gwasanaeth maethu yn bwriadu terfynu, neu’n bwriadu diwygio telerau, cymeradwyaeth person fel rhywun addas i weithredu fel rhiant maeth yn unol â rheoliad 9(7) o’r Rheoliadau Maethu, pan fo hysbysiad am y penderfyniad yn cael ei roi ar ôl 31 Mawrth 2026.
Rhan 2
PANELI
Cyfansoddiad paneli
5.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael cais a wnaed gan geisydd yn unol â rheoliad 18, gyfansoddi panel yn unol â rheoliad 6, 7 neu 8, yn ôl y digwydd, at ddiben adolygu’r dyfarniad cymhwysol.
(2) Rhaid dewis aelodau’r panel o restr o bersonau (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y rhestr ganolog”) a gedwir gan Weinidogion Cymru, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn addas, yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad, i fod yn aelodau panel.
(3) Rhaid i aelodau’r rhestr ganolog gynnwys—
(a)
(a) gweithwyr cymdeithasol sydd ag o leiaf dair blynedd o ofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith mabwysiadu a lleoli gyda theuluoedd,
(b)
(b) gweithwyr cymdeithasol sydd ag o leiaf dair blynedd o ofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol sy’n ymwneud â gofal plant, gan gynnwys profiad uniongyrchol o waith maethu,
(c)
(c) ymarferwyr meddygol cofrestredig, a
(d)
(d) personau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau gan gynnwys, pan fo’n rhesymol ymarferol, bersonau sydd â phrofiad personol o fabwysiadu a phersonau sydd, neu sydd wedi bod o fewn y ddwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth awdurdod lleol.
Aelodaeth panel i adolygu dyfarniad ar addasrwydd i fabwysiadu
6. Pan fo’r dyfarniad cymhwysol sydd i’w adolygu yn ddyfarniad ar addasrwydd i fabwysiadu, pump yw nifer y bobl y mae rhaid eu penodi i banel a rhaid i’r panel gynnwys—
(a) dau berson sy’n dod o fewn rheoliad 5(3)(a),
(b) un person sy’n dod o fewn rheoliad 5(3)(c), ac
(c) dau berson arall o’r rhestr ganolog, gan gynnwys, pan fo’n rhesymol ymarferol, o leiaf un person sydd â phrofiad personol o fabwysiadu.
Aelodaeth panel i adolygu dyfarniad ar ddatgelu
7. Pan fo’r dyfarniad cymhwysol sydd i’w adolygu yn ddyfarniad ar ddatgelu, pump yw nifer y bobl y mae rhaid eu penodi i banel a rhaid i’r panel gynnwys—
(a) dau berson sy’n dod o fewn rheoliad 5(3)(a), a
(b) tri pherson o’r rhestr ganolog.
Aelodaeth panel i adolygu dyfarniad ar faethu
8. Pan fo’r dyfarniad cymhwysol sydd i’w adolygu yn ddyfarniad ar faethu, pump yw nifer y bobl y mae rhaid eu penodi i banel a rhaid i’r panel gynnwys—
(a) dau berson sy’n dod o fewn rheoliad 5(3)(b), a
(b) tri pherson arall o’r rhestr ganolog, gan gynnwys, pan fo’n rhesymol ymarferol, o leiaf un person sydd, neu sydd wedi bod o fewn y ddwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth awdurdod lleol.
Cynghorwyr panel
9.—(1) Rhaid i banel gael ei gynghori gan weithiwr cymdeithasol sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol.
(2) Caniateir i banel, pan fo’r panel yn ystyried ei bod yn iodol, gael ei gynghori gan—
(a)
(a) cynghorydd cyfreithiol sydd â gwybodaeth ac arbenigedd ym maes deddfwriaeth sy’n ymwneud â mabwysiadu a maethu;
(b)
(b) ymarferydd meddygol cofrestredig sydd ag arbenigedd perthnasol ym maes gwaith mabwysiadu neu faethu, pa un bynnag sy’n iodol i’r dyfarniad cymhwysol sy’n cael ei ystyried;
(c)
(c) unrhyw berson arall y mae’r panel yn ystyried bod ganddo arbenigedd perthnasol mewn perthynas â’r dyfarniad sy’n cael ei ystyried.
(3) Rhaid i’r cynghorwyr panel y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) fod yn aelodau o’r rhestr ganolog.
Penodi cadeirydd panel
10. Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person sydd â’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gadeirio panel.
...
Get this document and AI-powered insights with a free trial of vLex and Vincent AI
Get Started for FreeStart Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant
-
Access comprehensive legal content with no limitations across vLex's unparalleled global legal database
-
Build stronger arguments with verified citations and CERT citator that tracks case history and precedential strength
-
Transform your legal research from hours to minutes with Vincent AI's intelligent search and analysis capabilities
-
Elevate your practice by focusing your expertise where it matters most while Vincent handles the heavy lifting
Start Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant