Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2008/3094 (Cymru)

2008 Rhif 3094 (Cy.273)

ANIFEILIAID, CYMRULLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed 2nd December 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29th October 2008

Yn dod i rym 3rd December 2008

Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20061, ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau hynny.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 5(5) o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y'u gwneir.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

S-2 Diwygiadau i Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007

Diwygiadau i Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007

2. Diwygir Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 20072fel a ganlyn.

S-3 Rheoliad 3

Rheoliad 3

3. Yn rheoliad 3 (eithriadau i'r gwaharddiad ar anffurfio), yn lle is-baragraffau (c) ac (ch) rhodder—

“(c)

“(c) mewn amgylchiadau hylan;

(ch)

(ch) yn unol ag arferion da; ac

(d)

(d) yn unol â rheoliad 5, pan fo'n gymwys”.

S-4 Rheoliad 4

Rheoliad 4

4. Yn rheoliad 4(1) (cyflawni triniaethau gwaharddedig mewn argyfwng) hepgorer y geiriau “a warchodir”.

S-5 Rheoliad 5

Rheoliad 5

5. Yn lle rheoliad 5 (personau sy'n cael rhoi triniaethau a ganiateir) rhodder—

S-5

5.—(1) Ac eithrio'r triniaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), ni cheir rhoi unrhyw driniaeth, a ganiateir o dan reoliad 3 ac y mae Deddf Milfeddygon 19663neu Orchymyn Milfeddygon (Esemptiadau) 19624yn gymwys iddi, ac eithrio gan berson y caniateir iddo ei rhoi o dan y ddeddfwriaeth honno.

(2) Caniateir tocio cynffonau neu ysbaddu moch naill ai gan filfeddygon yn unig neu, pan nad yw'r anifeiliaid yn hyn na 7 diwrnod oed, gan berson sy'n brofiadol yn y technegau cysylltiedig a naill ai'n berson sy'n gyfrifol am yr anifail neu'n berson a gyflogir neu a gymerir ymlaen gan berson o'r fath i drin yr anifail.”.

S-6 Atodlen 1

Atodlen 1

6.—(1) Mae'r diwygiadau i Atodlen 1 (triniaethau a ganiateir) fel a ganlyn.

(2) Yn yr adran ar adar, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau Adnabod” rhodder—

“Microsglodynnu.

Tagio gyddfau.

Bylchu gweoedd.

Tagio gweoedd.

Tagio adenydd.

Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.”.

(3) Yn yr adran ar ddefaid, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.” rhodder—

“Ysbaddu.

Casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

Ffrwythloni laparosgopig.

Trawsblannu ofa, gan gynnwys casglu ofa, drwy ddull llawfeddygol.

Fasdoriad.”.

(4) Yn yr adran ar eifr, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.” rhodder —

“Ysbaddu.

Casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

Ffrwythloni laparosgopig.

Trawsblannu ofa, gan gynnwys casglu ofa, drwy ddull llawfeddygol.

Fasdoriad.”.

S-7 Atodlen 4

Atodlen 4

7.—(1) Mae'r diwygiadau i Atodlen 4 (adar: gofynion wrth roi triniaethau penodol a ganiateir) fel a ganlyn.

(2) Yn union cyn paragraff 1 (ysbaddu) mewnosoder—

S-A1

Pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1

A1. Ac eithrio yn achos tocio pigau (pan fo darpariaethau paragraff 5 yn gymwys), ni chaniateir rhoi unrhyw driniaeth a restrir yn yr adran ar adar yn Atodlen 1 i adar sy'n ieir dodwy neu y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy, oni chedwir hwy ar sefydliadau sydd â llai na 350 o adar o'r fath.

S-A2

Tagio gyddfau

A2. Caniateir rhoi'r driniaeth i hwyaid a ffermir, yn unig, a hynny yn unig os rhoddir y driniaeth o fewn 36 awr ar ôl deor at ddibenion rhaglen gwella brîd.

S-A3

Bylchu gweoedd

A3. Caniateir rhoi'r driniaeth i hwyaid a ffermir, yn unig, a hynny yn unig os rhoddir y driniaeth o fewn 36 awr ar ôl deor at ddibenion rhaglen gwella brîd.

S-A4

Tagio gweoedd

A4. Caniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir at ddibenion rhaglenni gwella brîd neu i brofi am bresenoldeb clefyd...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT